Yr Eifl: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 1:
[[Delwedd:Yr Eifl.jpg|300px|bawd|'''Yr Eifl''' o'r dwyrain]]
Mynydd ar arfordir gogleddol [[Llŷn]], uwchben pentrefpentrefi [[Llanaelhaearn]] a [[Trefor|Threfor]], yw '''Yr Eifl'''. Llygriad o'r enw [[Cymraeg]] gwreiddiol yw'r enw [[Saesneg]] arno, ''The Rivals''. Mae'r olygfa o ben yr Eifl yn fendigedig gan fod y mynydd yn uwch nag unman arall yn Llŷn. Mae'n sefyll allan o bell hefyd ac yn arbennig o drawiadol o lannau de-orllewinol [[Ynys Môn]], e.e. o [[Ynys Llanddwyn]].
 
Mae gan y mynydd dri chopa. Mae'r uchaf yn y canol (564m) â hen [[Carnedd|garnedd]] arno, y lleiaf i'r gogledd (444m), yntau gyda charnedd arno, dros Fwlch yr Eifl ac uwchben y môr, a'r trydydd (485m) i'r de-ddwyrain uwchben pentref hanesyddol [[LlanaelhaiarnLlanaelhaearn]]. Coronir yr olaf â [[bryngaer]] hynafol nodedig iawn a elwir [[Tre'r Ceiri]], sydd un o'r bryngaerau cynhanesyddol gorau yn [[Ewrop]].
 
Dan gysgod bygythiol Graig Ddu ar ei lethrau gorllewinol mae'r hen bentref chwarel [[Nant Gwrtheyrn]], sydd ers blynyddoedd bellach yn ganolfan iaith genedlaethol. Ceir chwarel arall ar lethrau gogleddol y copa isaf, sef Chwarel Trefor. [[Gwenithfaen]] yw'r garreg.