Rhys ap Gruffudd: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
 
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Llinell 34:
Wedi marwolaeth y brenin Harri yn [[1189]], gwrthryfelodd Rhys yn erbyn y brenin newydd, [[Rhisiart I o Loegr|Rhisiart I]] ac ymosododd ar yr arglwyddi Normanaidd o gwmpas ei deyrnas, gan gipio cestyll San Clêr a Llansteffan. Yn ei hen ddyddiaddau cafodd Rhys drafferth i gadw rheolaeth ar ei feibion, yn enwedig [[Maelgwn ap Rhys|Maelgwn]] a [[Gruffydd ap Rhys II|Gruffydd]], oedd yn cweryla'n barhaus. Yn [[1194]] gorchfygwyd Rhys mewn brwydr gan Maelgwn a Hywel a chafodd ei garcharu, ond rhyddhawyd ef yn ddiweddarach gan Hywel.
 
Arweiniodd Rhys ei ymgyrch olaf yn erbyn y Normaniaid yn [[1196]], gan gipio nifer o gestyll yn cynnwys [[Caerfyrddin]], [[Talacharn]] a Chastell Paun. Y flwyddyn ddilynol, bu Rhys farw yn annisgwyl a chladdwyd ef yn eglwys gadeiriol [[Tyddewi]]. Dilynwyd ef gan ei fab Gruffydd ap Rhys.
 
==Cyfeiriadau==