Powdwr gwn: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Llinell 1:
[[image:Pyrodex powder ffg.jpg|thumb|right|Math diweddar o bowdwr du]]
 
Math o [[ffrwydryn]] yw '''powdwr gwn''' (hefyd '''powdwr du'''). Fe'i gwneir trwy gyfuno [[sylffursylffwr]], [[golosg]] a [[potasiwm nitrad]], ac fe'i defnyddir yn awr yn bennaf mewn [[Gwn|gynnau]] ac mewn [[tân gwyllt]].
 
Ystyrir powdwr gwn yn ffrwydryn isel, gan fod yr egni o'r ffrwydrad yn cael ei ryddhau'n gymarol araf. Fel rheol, mae'n cynnwys 75% o botasiwm nitrad, 15% o olosg a 10% o sylffursylffwr. Y farn gyffredinol yw i bowdwr gwn gael ei ddarganfod yn [[China]] tua'r [[9fed ganrif]]; ceir y cyfeiriad cyntaf ato mewn testun [[Taoaeth|Taoaidd]] o tua chanol y ganrif honno. Ceir y cyfarwyddiadau cynharaf sut i'w wneud mewn testun milwrol o China yn dyddio o [[1044]]. Nid yw'r gred gyffredinol mai dim ond mewn tân gwyllt y defnyddid powdwr gwn yn China yn gywir; fe'i defnyddid i bwrpasau milwrol hefyd. Mae'r [[gwn]] cynharaf sydd wedi goroesi yn dod o China ac yn dyddio o'r [[13eg ganrif]]. Lledaenodd y wybodaeth am bowdwr gwn i'r byd [[Islam|Islamaidd]] tua'r un adeg. Cofnodir i'r [[Yr Aifft|Eifftiaid]] defnyddio powdwr gwn yn erbyn [[Ymerodraeth y Mongol|y Mongoliaid]] ym Mrwydr Ain Jalut yn 1260, ac eto yn [[1304]]. Yn [[1453]], roedd gan fyddin [[Mehmed II]] wn enfawr oedd yn medru saethu meini 680 kg o bwysau. Defnyddiwd y gwn i falurio muriau [[Caergystennin]] a chipio'r ddinas, gan roi diwedd ar yr [[Ymerodraeth Fysantaidd]].
 
[[Categori:Cemeg]]