Tywyn, Gwynedd: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
RwthTomos1948 (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
RwthTomos1948 (sgwrs | cyfraniadau)
uchwanegu gwybodaeth
Llinell 91:
Hyd at diwedd y 18fed canrif roedd yn rhesymol galw Tywyn yn porthladd <ref name=":1" />gan fod y llanw yn cyraedd y Gwaliau hyd 1809. Roedd cychod bychain yn dod â mewnforion yno. Un o rhain oedd calch a bu nifer o odynau calch ar lan y [[Dysynni. Dysgodd pobl ifanc sut i nofio yn y lli o "geg y ffos" i'r Gwaliau. <ref name=":1" /> Roedd iard adeiladu llongau ger y "Pil Ditych" gyferbyn y safle ble adeiladodd y Presbyteriadd a'u capel cyntaf yn ymyl y Gwaliau. <ref name=":1" /> Mor hwyr a 1886 bu trigolion Tywyn yn cofio llong a elwid y Debora yn cael ei adeiladu ger Rhydygarnedd. <ref name=":1" /> Roedd y corsydd o Pall Mall i'r mor yn tir comin i drigolion Tywyn. Cedwid y werin anifeiliaid a dofednod yno a buont yn hela adar a physgota ond y defnydd pwysicaf oedd torri mawn ar gyfer tanau.<ref name=":1" /> Bu y tir comin yn bwysig hefyd i fel man i gasglu gwartheg a defaid at eu gilydd cyn i'r porthmyn eu gyrru hwy i Loegr. Gwelir dylanwad y porthmyn yn yr enwau Pall Mall, Picadili a'r White Hall gan rhoddodd enwau o derfyn eu taith ar lefydd ar ddechrau eu taith.
 
==== Draenio Corsydd y Dysynni ====
[[File:Ffosydd yn Aber y Dysynni.jpg|thumb|Ffosydd yn aber y Dysynni]]
Pan etifeddodd Edward Corbet Ynysymaengwyn yn 1782, dechrauodd draenio y darn o'r corstir oedd yn perthyn i'r ystad. Rhwng 1788 a 1784 newidiodd y gorstir i dir oedd yn cynhyrchu gwair, trwy cloddio ffosydd a thrwy lledu calch. Cedwid y cost yn isel trwy dal i caniatáu i'r werin parhau i torri mawn, cyhyd ag yr oeddent yn torri yn union ble dewisodd ef; i ddyfnder a penodwyd ganddo ef a gan cadw yr ochrau yn syth. Fel hyn bu yn arbed costau talu gweithwyr i agor y ffosydd.<ref name=":4" />
 
Llinell 134 ⟶ 135:
Mae'n debyg fod gelyniaeth Edward Corbet tuag at Anghydffurfiaeth wedi peri i'r mudiad tyfu yn arafach ynNhywyn nag mewn llefydd eraill. Mae sawl hanes am ei gwrthwynebiad. <ref name=":1" /> Pan oedd Edward William, arweinydd y Methodistiaid cynnar, yn mynd o gwmpas y dref gyda cloch yn cyhoeddi cyfarfod, cymerodd Corbet y cloch o'i law ganfwrw ef ar ei foch. Cynnigiodd Edward William y foch arall iddo ond ni cafodd ei fwrw yr ail waith. <ref name=":1" /> Rhoddodd Corbet gorchymun i ysgraffwyr i peidio cludo pregethwyr Methodistaidd dros y Dysynni ger Rhydgarnedd. Gwrthododd un ohonynt cludo tri pregethwr ar draws y Dysynni.Cymerasant cwch a dechrau croesi a dilynodd hwy gan yr ysgraffwr. Tarodd ef y pregethwr cyntaf ar ei foch; gwnaeth yr un peth i'r ail. Trodd y trydydd ato gan dweud fod dau foch yn cael ei caniatàu yn yr Efengylau a dim mwy a rhoddodd y tri crasfa iddo. Dwedwyd fod gan yr ysgraffwr parch at y pregethwyr am gweddill ei fywyd.<ref name=":1" />
 
==== Datblygiad ====
[[File: Capel Bethel, Tywyn.jpg |thumb|Capel Bethel, Tywyn]]
Cafodd twf yr ysgolion cylchynol, oedd yn dysgu darllen Gymraeg i hybu darllen y Beibl, dylanwad yn Nhywyn fel ar draws Cymru. <ref name=":2" /> Cofrestrwyd yr ystafell ymgunnull uwchben Porth Gwyn ar gyfer pregethu yn 1795 a cynhaliwyd y Methodistiaid eu oedfaon cyntaf yno. <ref name=":1" /> Dechrauodd Ysgol Sul y Presbyteriaid yn 1802, yr un Weslaid yn 1807 a'r Annibynwyr yn 1813.<ref name=":15">The State of Education in Wales 1819, (adroddiad) Archifdy Meirionnydd (heb cyf.)</ref> Cynhaliwyd Cymanfa Ysgolion Sul Cymru yn Nhywyn yn 1810.<ref name=":12">Jones, M. 1929, Ychydig o hanes Eglwys Bethel, Tywyn, Wynn-Williams</ref> Adeiladodd y Presbyteriaid eu ail capel, Bethel, yn 1815 ac ac yn fuan wedyn cododd yr Annibynwyr capel Bethesda. Wrth i anghydffurfiaeth tyfu ailadeiladodd Bethel yn 1871 <ref name=":12" /> a Bethesda yn 1892. Yr oedd y Wesleiad yn cyfarfod yn yr hen capel yn ymyl Stryd y Nant tan 1882 pan agorwyd capel Ebeneser. Sefydlodd y Beddyddwyr yn 1885 mewn ystafell ger Gwesty'r Corbett. Cynhaliwyd dau bedydd y flwyddyn honno, yn y môr. Agorodd eu capel pressennol yn 1900. <ref name=":13">I.G.1960, The Baptist Church in Tywyn (pamffled) Archifdy Meirionnydd, (heb cyf.)</ref> Er gwaethaf yr holl bwyslais ar addysg Saesneg a'r agwedd gwawdlyd at y Gymraeg yn y 19eg canrif; llwyddodd y capeli nid yn unig i magu aelodau oedd yn deall eu ffydd ond hefyd i cynnal cymdeithas Cymraeg a'r gallu i darllen y Gymraeg. <ref>Evans, G. 1971, Aros Mae.., John Penry.</ref>
 
==== Darpariaeth Saesneg ====
Llinell 147 ⟶ 149:
 
==== Diriwiad ====
Erbyn 1935 bu gweinidog Cymraeg yn cyfrifol am capel y Bedyddwyr yn y gaeaf ond cymerodd gweinidogion ar eu gwyliau cyfrifoldeb am oedfaon yr haf. <ref name=":13" /> Trodd y capel yn raddol i'r Saesneg cyn iddynt cau yn 60au y canrif diwethaf. Defnyddir yr adeilad gan Efengylwyr heddiw. Yn 1969, ar ôl defnyddio yr hen gapel Wesle ger Stryd y Nant am 12 mlynedd, agorodd y Catholigion eglwys Dewi. Caewyd capel Bethesda yn 2010 a chapel Bethany yn 20172
 
=== Addysg ===
 
==== Addysg Elusennol ====
=== Ymwelwyr ===
Rhwng colli'r clas yn 1284 a 1717 yr unig darpariaeth addysgol oedd naill i rhienni trosglwyddo beth bynnag addysg oedd ganddynt i'w plant neu trefniadau a gwnaed gan unigolion i cyflogi rhywun i dysgu medrau sylfaenol neu i teuloedd bonedd i anfon eu plant i ffwrdd am addysg. Yn 1717 rhoddodd Vincent Corbet tir gyda'r amod fod yr elw yn cael ei defnyddio i darparu ysgol elusennol yn y plwyf. Yn 1786 rhoddodd Lady Moyer o Lundain arian at yr un diben.<ref name=":1" /> Bu'n posibl i rhieni oedd yn gallu talu anfon eu plant at yr ysgol hon ond maen tramgwydd i nifer oedd addysg crefyddol a dysgwyd o safpwynt Anglicaniaid.
 
==== Ysgolion Cylchynol ar Ysgolion Sul ====
Cafodd plant anghydffurfwyr addysg yn yr ysgolion cylchynol a sefydlwyd gan Gruffudd Jones a Bridget Bevan yn 1734. <ref name=":2" /> Diben yr ysgolion hyn oedd dysgu darllen yr ysgrythurau a buont yn gweithredol yn Ystumanner fel mewn llefydd eraill yng Nghymru. Erbyn ail haner y 18fed canrif roedd Cymru yn un o'r gwledydd prin lle oedd y mwyafrif yn llythrennog. Dangosodd adroddiad ar addysg yn 1819 fod nifer o blant yn cael addysg mewn ysgolion Sul yn Nhywyn ac yr oedd ganddynt i gyd y gallu i darllen yr ysgruthurau.<ref name=":15" /> Yn ychwanegol agorodd John Jones ysgol ym Mryncrug oedd yn arbenigo mewn dysgu morwriaeth, a dynnodd disgyblion o bell.
 
==== Mudiadau Addysg yn y 19eg Canrif ====
Dechrauodd mudiadau Prydeinig elusennol i darparu y ysgolion ar dechrau y 19eg canrif. Yn 1808 dechreuodd "ysgolion Brutanaidd" oedd yn anenwadol. Yn 1811 sefydlodd y Gymdeithas Genedlaethol oedd yn dysgu crefydd o safbwynt Anglicanaidd. <ref name=":2" /> Derbyniodd y "National School" yn Nhywyn yr arian o'r elusennau addysgiadol leol. <ref name=":4" /> Dysgodd y plant trwy gyfrwng y Saesneg. Yn 1847 cyhoeddwyd adroddiad ar Addysg yng Nghymru a elwir "Brad y Llyfrau Gleision" a priodolodd pob math o ymddygiad "anfoesol" a "cyntefig" i fodolaeth yr iaith Gymraeg. Yn ystod yr 1860au defnyddid "Welsh Stick" (sef ffurf ar y [[Welsh Not]]) yn Ysgol Frutanaidd y dref er mwyn cosbi plant a ddaliwyd yn siarad Gymraeg. <ref>Archifdy Meirionnydd, Archifau Gwynedd, [http://www.gtj.org.uk/cy/small/item/GTJ17911//page/1/ Llyfr Log Ysgol Brydeinig Towyn, Sir Feirionnydd, 1863-76], [http://www.gtj.org.uk/cy/ Casglu'r Tlysau: Y wefan ar gyfer treftadaeth a diwylliant Cymreig].</ref> Parhaodd yr agwedd hwn at y Gymraeg tan ganol yr ugainfed canrif.
 
==== Addysg dan Deddf Gwlad ====
Pasiwyd Deddf Addysg yn 1870. <ref name=":2" /> Sefydlodd Byrddau Ysgol gyda'r grym i godi cyllid o drethi leol. Aeth yr ysgol Brutanaidd (rhagflaenydd Ysgol Penybryn) yn rhan o'r drefn newydd ond gwrthododd y "National School" yn Nhywyn ymuno. Diriwiodd yn raddol a pan sefydlwyd Byrddau Addysg Lleol yn 1902 penderfynwyd nid oedd angen ddwy ysgol a caewyd y "National School yn 1913. <ref name=":4" />
 
=== Ymwelwyr ===
Bu Tywyn yn cyrchfan ymwelwyr, neu pereionion ers canrifoedd. Cyn dyfodiad y rheilffordd yr oedd yn llawer haws teithio ar y mor. Pan daeth teithio pleser yn ffasiynol gyda boneddigion yn haner cyntaf y 19ed canrif daeth ymwelwyr i aros yn Ngwesty'r Corbett a'r Neptune Hall. Cyn 1850 bu'r dref yn adnabyddus am safon arbennig y pysgota. <ref name=":1" /> Parhaodd ymweld â'r ffynnon yn di-dor tan diwedd y 19ed canrif. Yn 1868 ysgrifennwyd "The well is enclosed and fitted up with dressing places, being 12ft by nine it affords ample room for a plunging bath."<ref name=":14" />
 
Llinell 169 ⟶ 183:
== Yr Iaith Gymraeg ==
 
[[Cymraeg]] oedd prif iaith Tywyn hyd at ganol yr 20g a'r unig iaith y fwyafrif tan diwedd y 19eg canrif. <ref>Cyfrifiad 1901</ref>
[[Cymraeg]] oedd prif iaith Tywyn hyd at ganol yr 20g a'r unig iaith y fwyafrif tan diwedd y 19eg canrif. Yn ystod y 1860au, defnyddid 'Welsh Stick' (sef ffurf ar y [[Welsh Not]]) yn Ysgol Frutanaidd y dref (rhagflaenydd [[Ysgol Penybryn, Tywyn|Ysgol Penybryn]]) er mwyn cosbi plant a ddaliwyd yn siarad Cymraeg.<ref>Archifdy Meirionnydd, Archifau Gwynedd, [http://www.gtj.org.uk/cy/small/item/GTJ17911//page/1/ Llyfr Log Ysgol Brydeinig Towyn, Sir Feirionnydd, 1863-76], [http://www.gtj.org.uk/cy/ Casglu'r Tlysau: Y wefan ar gyfer treftadaeth a diwylliant Cymreig].</ref>Cofnododd [[Cyfrifiad y Deyrnas Unedig 2001]] fod 40.5% o boblogaeth Tywyn yn gallu'r Gymraeg. Yn 2010, nodwyd mewn adolygiad gan [[Estyn]] fod 11% o blant ysgol gynradd y dref yn dod o aelwydydd a oedd â'r Gymraeg yn brif iaith.<ref>Williams, William Edwards. 2010. [http://www.estyn.gov.uk/download/publication/162107.4/inspection-reportysgol-penybryncym2010 Adroddiad ar ansawdd addysg yn Ysgol Penybryn, Tywyn, Gwynedd], t. 1.</ref>
 
[[Cymraeg]] oedd prif iaith Tywyn hyd at ganol yr 20g a'r unig iaith y fwyafrif tan diwedd y 19eg canrif. Yn ystod y 1860au, defnyddid 'Welsh Stick' (sef ffurf ar y [[Welsh Not]]) yn Ysgol Frutanaidd y dref (rhagflaenydd [[Ysgol Penybryn, Tywyn|Ysgol Penybryn]]) er mwyn cosbi plant a ddaliwyd yn siarad Cymraeg.<ref>Archifdy Meirionnydd, Archifau Gwynedd, [http://www.gtj.org.uk/cy/small/item/GTJ17911//page/1/ Llyfr Log Ysgol Brydeinig Towyn, Sir Feirionnydd, 1863-76], [http://www.gtj.org.uk/cy/ Casglu'r Tlysau: Y wefan ar gyfer treftadaeth a diwylliant Cymreig].</ref>Cofnododd [[Cyfrifiad y Deyrnas Unedig 2001]] fod 40.5% o boblogaeth Tywyn yn gallu'r Gymraeg. Yn 2010, nodwyd mewn adolygiad gan [[Estyn]] fod 11% o blant ysgol gynradd y dref yn dod o aelwydydd a oedd â'r Gymraeg yn brif iaith.<ref>Williams, William Edwards. 2010. [http://www.estyn.gov.uk/download/publication/162107.4/inspection-reportysgol-penybryncym2010 Adroddiad ar ansawdd addysg yn Ysgol Penybryn, Tywyn, Gwynedd], t. 1.</ref>
 
== Trigolion nodedig ==