Mynach: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
ehangu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Llinell 9:
Ysbrydolwyd mynachaeth o fewn Cristnogaeth ngan esiamplau megis y proffwyd [[Elias]] a [[Ioan Fedyddiwr]], a fu ill dau yn byw yn yr anialwch.
Y Cristion cyntaf y gwyddir iddo ddilyn bywyd fel hyn oedd Sant [[Anthoni Fawr]] ([[251]] - [[356]]), fu'n byw fel meudwy yn anialwch [[yr Aifft]] ac a ddenodd gryn nifer o ddilynwyr ac efelychwyr. Dywedir mai Sant [[Pachomius]] (c. [[292]] - [[348]]) oedd y cyntaf i ddatblygu'r syniad o gymuned o fyneich yn byw dan reolaeth [[abad]]. Daeth mynachaeth yn boblogaidd iawn yn yr [[Ymerodraeth Fysantaidd]]; ar ei uchafbwynt roedd tua 30,000 o fyneich. Yn y gorllewin, datblygewyddatblygwyd y rheol fynachaidd gyntaf gan Sant [[Benedict o Nursia]] (c. [[480]] – [[547]]).
 
==Bwdhaeth==
 
Ym Mwdhaeth [[Theravada]], gelwir mynach yn ''[[bhikkhu]]'', a'r rheol fynachaidd yn ''[[patimokkha]]''. Disgwylir i'r mynachod fyw ar yr hyn a roddir iddynt; gan fynd o amgylch bob bore i gasglu rhoddion o fwyd. Mae'r myneich yn rhan o'r ''[[Sangha]]''. Ceir myneich hefyd mewn Bwdhaeth [[Mahayana]] a [[Vajrayana]] hefyd, gyda rheolau ychydig yn wahanol.
 
Mewn rhai gwledydd, er enghraifft [[Gwlad Thai]], mae'n arferol i fechgyn dreulio blwyddyn neu ddwy mewn mynachlog fel rhan o'u hyfforddiant, er bod rhai yn dewis aros yn barhaol.
 
[[Categori:Crefydd]]