Volgograd: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B →Cyfeiriadau: clean up |
|||
Llinell 18:
==Hanes==
Sefydlwyd y ddinas yn 1589 fel caer lle mae [[Afon Tsaritsa]] yn ymuno ag [[Afon Volga]] i amddiffyn ffin ddeheuol Rwsia. Fe'i cipiwyd ddwywaith mewn gwrthryfeloedd gan [[Cosaciaid]], unwaith yng ngwrthryfel [[Stenka Razin]] yn 1670 ac unwaith yng ngwrthryfel [[Yemelyan Pugachev]] yn 1774. Daeth yn borthladd ac yn ganolfan fasnachol o bwys yn ystod y
Yn ystod [[Rhyfel Cartref Rwsia]], roedd ymladd ffyrnig am Tsaritsyn. Fe'i meddiannwyd gan luoedd y [[Bolsieficiaid]] yn 1918 ond ymosodwyd arni gan luoedd y [[Rwsiaid Gwynion]]. Bu bron iddi gwympo, ond achubwyd y ddinas i'r Cochion gan y Cadfridog [[Pavel Sytin]] a chadeirydd y pwyllgor milwrol lleol, [[Josef Stalin]]. Gan i Stalin gymryd rhan yn yr ymdrech i'w hamddiffyn yn y rhyfel cartref, ailenwyd y ddinas ar ei ôl fel 'Stalingrad' ("Dinas Stalin") yn [[1925]].
|