Y plygain: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
→‎Canhwyllau: Llaw a llygad -canrifoedd yn bennaf, replaced: 19eg ganrif → 19g using AWB
Llinell 15:
==Canhwyllau==
 
Hyd at y 19eg ganrif19g, anaml iawn y cynhelid gwasanaethau eglwys yn y nos, gan nad oedd hi'n hawdd goleo'r eglwys; ond roedd y plygain yn eithriad. Er mwyn cael golau, arferai'r trigolion gario eu cannwyll neu lamp i'r eglwys. Daeth hyn yn rhan bwysig o'r ŵyl; yn [[Dolgellau|Nolgellau]], er enghraifft, gwisgwyd y canhwyllau â chelyn ac yn Llanfyllin cynheuwyd cannoed o ganhwyllau wedi'u gosod fodfeddi ar wahân. Arferid addurno'r canhwyllau hyn, ac yn [[Llanfyllin]], goleuwyd yr adeilad gan gannoedd o ganhwyllau, wedi eu lleoli fodfeddi ar wahân. Ym [[Maentwrog]], [[Sir Feirionnydd]], yr oedd canhwyllau hefyd ''"wedi eu gosod mewn tyllau ymhen polion neu byst ysgafn a sicrheid wrth gôr yma ac acw yn yr adeilad."'' <ref name="Gwefan Amgueddfa Cymru"/>
 
Yn [[Llanfair Dyffryn Clwyd]] ger [[Rhuthun]] yn 1774, gwyddys i'r trigolion lleol gynnau cynhwyllau, dawnsio a chanu wrth gerdded i'r plygain. Cafwyd gorymdeithiau i'r eglwys o ganol y dref neu'r pentref, hefyd, yn [[Dinbych-y-pysgod|Ninbych-y-pysgod]], [[Talacharn]] a [[Llanfyllin]]. Cynheuwyd ffaglau a hebryngwyd y rheithor lleol ar flaen yr orymdaith yn aml a'r llanciau'n chwythu cyrn.