Santes Cynheiddon: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
RwthTomos1948 (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
RwthTomos1948 (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Llinell 6:
 
=== Cynheiddon neu Canna neu Geinor ===
Bu y santes hon yn weithgar yn ne-orllewin Cymru; yn ardal Cydweli ble mae pentref a elwir Capel Llangynheiddon. Cydweithiodd yn agos gyda Cymorth oedd yn ferch neu yn nith iddi.<ref>Jones T T 1977 The daughters of Brychan, Brycheiniog Cyf.XVII</ref> Yn Llangain ger aber afon Tywi mae carreg a elwir 'Sedd Canna' gyda ffynnon gerllaw. Dywedir fod gwyrthiau wedi digwydd yma yn gwella pobl oedd yn dioddef o'r cryd neu waeledd y coluddun. Bu rhaid i'r claf taflu pinnau bach i'r ffynnon, yfed y dŵr, neu weithiau ymdrochu ynddo ac eistedd yn y cadair am gyfnod gan gysgu os gellid. Parhaodd y triniaeth am ddyddiau, am pythefnos weithiau. Diflannodd y ffynnon yn y 19eg canrif ac mae'r ysgrifen ar y cadair yn aamhaus ond dwedid fod y pant y y carreg wedi gwneud gan y nifer o gleifion oedd yn eistedd arno.<ref>Spencer R. 1991 The Saints of Wales and the West Country, Llanerch</ref>
 
Mae'n debyg fod Llangennech, ger aber yr afon Llwchwr Llangain ar yr afon Tywi; a Llangeinor a Llangan ger Penybont i gyd wedi cysegru iddi. Cysylltir hi hefyd gyda Pontcanna a Treganna yng Nghaerdydd ond mae'n debyg eu bod hwy yn cysylltiedig ag un o'i chwiorydd.
 
=== Cyfeiriadau ===
{{reflist}}