Aeneas: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
ehangu
Llinell 5:
Mae Aeneas y fab i'r tywysog [[Anchises]] a'r dduwies [[Aphrodite]] (Gwener); mae Anchises yn gefnder i [[Priam]], brenin [[Caerdroea]]. Yn yr Iliad, ef yw arweinydd y [[Dardaniaid]] sy'n ymladd ar ochr Caerdroea yn erbyn y Groegiaid, ac mae'n un o gyngheiriaid agosaf [[Hector]]. Yn yr ymladd, caiff gymorth ei fam, Aphrodite.
 
Pan syrth y ddinas, mae Aeneas yn un o'r ychydig o amddiffynwyr Caerdroea nad ydynt yn cael eu lladd neu eu gwneud yn gaethion. Mae'n gadael y ddinas yn cario ei dad, Anchises, ar ei gefn, gyda'i ddilynwyr. Maent yn hwylio ymaith, ac ar ôl chwe mlynedd o gwydro yn cyrraedd dinas [[Carthago]], lle mae'r frenhines [[Dido]] yn syrthio mewn cariad ag Aeneas. Er hynny, mae Aeneas yn mynnu gadael, ac yn teithio i'r [[Eidal]] ac ymsefydlu yn [[Latium]], lle mae'n priodi [[Lavinia]], merch y brenin Latinus, ac yn sefydlu dinas [[Lavinium]]. Sefydlodd ei fab, [[Ascanius]], ddinas [[Alba Longa]], a gyfrannodd at sefydly dinas [[Rhufain]].
 
Ystyriai brenhinoedd [[Teyrnas Rhufain]] eu hunain fel disgynyddion Aeneas, ac roedd teulu yr Iulii, yn eu plith [[Iŵl Cesar]], yn ystyried eu hunain yn ddisgynyddion Aeneas, a felly yn ddisgynyddion y dduwies Gwener.