Demetrius Poliorcetes: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Llinell 1:
Cadfridog [[Macedon]]aidd a ddaeth yn frenin Macedonia oedd [[Demetrius Poliorcetes]] (337-283 CC, [[Groeg (iaith)|Groeg]]: ''Δημήτριος Πολιορκητής''). Roedd yn fab i [[Antigonos I Monophthalmos]], un o'r ''[[Diadochi]]'', olynwyr [[Alecsander Fawr]].
 
Yn [[307 CC]], arweiniodd fyddin tuag [[Athen]], a gorfodi [[Demetrius Phalereus]], unben Athen, i ffoi i [[Alexandria]]. Ail-sefydlodd Demetrius hen gyfansoddiad Athen, a barodd i'r dinasyddion ei gyfarch ef a'i dad fel ''theoi soteres'', "gwaredwyr dwyfol". Yn [[306 CC]], gorchfygodd Menelaus, brawd [[Ptolemi I Soter]], brenin [[Yr Hen Aifft|yr Aifft]], ym [[Brwydr Salamis (306 CC)|Mrwydr Salamis]] ger arfordir [[Cyprus]], gan adael ei dad, Antigonos, yn feistr ar ran ddwyreinol y [[Môr Canoldir]] a'r [[Dwyrain Canol]] heblaw [[Babylonia]]. Cyhoeddodd Antigonos ei hun yn frenin [[Asia Leiaf]] a gogledd [[Syria]], ac enwodd Demetrius yn gyd-frenin.
Llinell 6:
 
Ym [[Brwydr Ipsus|Mrwydr Ipsus]] yn [[301 CC]], gorchfygwyd byddin Antigonos a Demetrius gan fyddin [[Lysimachus]] a [[Seleucus I Nicator]], oedd wedi gwneud cynghrair yn eu herbyn, a lladdwyd Antigonus yn y frwydr. Bu raid i Demetrius ffoi, ond yn [[297 CC]], cafodd [[Alexander V, brenin Macedonia]] ei ddiorseddu gan ei frawd [[Antipater II, brenin Macedonia|Antipater II]]. Troes Alexander at Demetrius Poliorcetes am gymorth, ond gwnaeth Demetrius ei hun yn frenin Macedonia, a llofruddiodd Alexander V.
 
 
[[Categori:Genedigaethau 337 CC]]
[[Categori:Marwolaethau 283 CC]]
 
[[en:Demetrius Poliorcetes]]