[[Sant]] o'r [[6g]] yw '''Dilig''', '''Cynddilig''' neu '''''Endellion'''''.<ref>[https://www.llgc.org.uk/fileadmin/fileadmin/docs_gwefan/casgliadau/Drych_Digidol/Deunydd_print/Welsh_Classical_Dictionary/04_C2.pdf www.llgc.org.uk; ''A Welsh Classical Dictionary''; Llyfrgell Genedlaethol Cymru].</ref> Mae dwy ffynnon ym mhentref [[St Endellion|Sen Endelyn]] wedi'i chysegru iddi ac mae rhan o'i bedd wedi goroesi yn yr eglwys leol. Dethlir dydd ei gŵyl ar [[29 Ebrill]]. Yr enw [[Lladin]] arni yw '''''Endelienta'''''.
Roedd DiligEndeillion yn ferch i Cymorth<ref name=":0">Jones, TT 1977 The Daughters of Brychan, Brycheiniog Cyf.XVII</ref>, wyres Brychan, a Brynach un o'i cynghorwyr ef. Ganwyd hi yng Nghernyw ar ôl i'w theulu symud yno. Treuliodd gyfnod ar [[Ynys Wair]] ble mae ganddi gapel. Symudodd i bentref ger [[Padstow]] sy'n dwyn ei henw, sef [[Sen Endelyn]] (Saesneg: Sant Endellion).
=== Buwch Endellion ===
Ceir hanes am DiligEndellion yn adrodd fod ganddi fuwch a odrodd ei hun pob dydd. Un diwrnod crwydrodd y fuwch ar dir pennaeth [[Trerigoni]] (Saesneg: Tregony). Gwylltiodd ef a lladdodd y fuwch. Er mwyn dial lladdodd tad bedydd Endeillion y pennaeth ond llwyddodd Endeillion ei adfywio.<ref>Spencer, R, 1991, ''Saints of Wales and the West Country'', Llanerch</ref>