Tyrus: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B robot yn newid: cu:Тѵ́ръ
Alan012 (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Llinell 7:
Yn ôl [[Herodotus]], sefydlwyd Tyrus tua [[2750 CC]], ac mae cofnodion amdani yn dyddio o tua [[1300 CC]]. Daeth yn ddinas fwyaf nerthol Ffenicia, a sefydlodd lawer o wladychfeydd; [[Carthago]] yw'r enwocaf o'r rhain. Roedd y ddinas yn nodedig am gynhyrchu lliw porffor arbennig, porffor Tyrus.
 
Am gynodau bu'r ddinas dan reolaeth [[Yr Hen Aifft|yr Aifft]], yna'n ddiweddarachg yn rhan o [[Ymerodraeth Persia]]. Yn [[332 CC]], cipiwyd y ddinas gan [[Alecsander Fawr]], brenin [[Macedon]], wedi gwarchae o saith mis. Yr adeg honno roedd Tyrus ar ynys fechan, felly adeiladodd byddin Alecsander gob i gysylltu'r ddinas a'r tir mawr. Ad-ennilloddenillodd y ddinas ei hanibyniaeth oddi wrth yr [[Ymerodraeth Seleucaidd]] yn [[126 CC]]. Yn ddiweddarach daeth yn rhan o'r ymerodraeth Rufeinig.
 
Cipiwyd y ddinas gan y Cristionogion yn [[1124]], a daeth yn un o ddinasoedd pwysicaf [[Teyrnas Jeriwsalem]] a phencadlys archesgobaeth Tyrus. Ad-enillwyd y ddinas i [[Islam]] yn [[1291]].