William Tecumseh Sherman: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
 
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Llinell 1:
[[Image:William-Tecumseh-Sherman.jpg|bawd|250px|William T. Sherman, Mis Mai 1865. Mae'r rhuban du ar ei fraich chwith yn arwydd o alar am farwolaeth [[Abraham Lincoln|Abraham Lincoln]]. Llun gan [[Mathew Brady]].]]
 
Milwr, gŵr busnes, addysgwr ac awdur o'r [[Unol Daleithiau]] oedd '''William Tecumseh Sherman''' ([[8 Chwefror]] [[1820]] - [[14 Chwefror]] [[1891]]).
 
Ganed ef yn [[Lancaster, Ohio|Lancaster]], [[Ohio]], yn fab i gyfreithiwt llwyddiannus. Enwyd ef ar ôl [[Tecumseh]], pennaeth enwog y [[Shawnee]]. Gwasanaethodd fel cadfridog ym myddin y Gogledd yn [[Rhyfel Cartref America]]. Gwasanaethodd dan y Cadfridog [[Ulysses S. Grant]] yn [[1862]] a [[1863]], yn ystod y brwydrau a arweiniodd at gipio [[Vicksburg, Mississippi|Vicksburg]] ar [[Afon Mississippi]] a gorchfygu byddinoedd y De yn nhalaith [[Tennessee]]. Yn 1864, dilynodd Grant fel arweinydd byddin y gogledd yn y gorllewin. Llwyddodd i gipio dinas strategol bwysig [[Atlanta, Georgia|Atlanta]]. Ystyrid hyn yn arwydd fod buddugloaeth y gogledd ar y gorwel, a gwnaeth lawer i sicrhau ail-etholiad [[Abraham Lincoln]] fel Arlywydd yr un flwyddyn. Wedi hyn, dechreuodd Sherman ar ymgyrch trwy dalaith [[Georgia]] a [[De Carolina|De]] a [[Gogledd Carolina]], gan greu cymaint o ddifrod nes amharu'n ddifrifol ar allu'r de i barhau'r rhyfel. Yn Ebrill [[1865]], ildiodd holl fyddinoedd y de yn Georgia, y ddwy Carolina a [[Florida]] iddo.