Tywyn, Gwynedd: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
RwthTomos1948 (sgwrs | cyfraniadau)
ychwanegu gwybodaeth
→‎Aber y Dysynni: remove stray characters
Llinell 88:
 
==== Aber y Dysynni ====
Hyd at diwedd y 18fed canrif roedd yn rhesymol galw Tywyn yn porthladd <ref name=":1" /> gan fod y llanw yn cyraedd y Gwaliau hyd 1809. Roedd cychod bychain yn dod â mewnforion yno. Un o rhain oedd calch a bu nifer o odynau calch ar lan y [[Dysynni. Dysgodd pobl ifanc sut i nofio yn y lli o "geg y ffos" i'r Gwaliau.<ref name=":1" /> Roedd iard adeiladu llongau ger y "Pil Ditych" gyferbyn y safle ble adeiladodd y Presbyteriadd a'u capel cyntaf yn ymyl y Gwaliau.<ref name=":1" /> Mor hwyr a 1886 bu trigolion Tywyn yn cofio llong a elwid y Debora yn cael ei adeiladu ger Rhydygarnedd.<ref name=":1" /> Roedd y corsydd o Pall Mall i'r mor yn tir comin i drigolion Tywyn. Cedwid y werin anifeiliaid a dofednod yno a buont yn hela adar a physgota ond y defnydd pwysicaf oedd torri mawn ar gyfer tanau.<ref name=":1" /> Bu y tir comin yn bwysig hefyd i fel man i gasglu gwartheg a defaid at eu gilydd cyn i'r porthmyn eu gyrru hwy i Loegr. Gwelir dylanwad y porthmyn yn yr enwau Pall Mall, Picadili a'r White Hall gan rhoddodd enwau o derfyn eu taith ar lefydd ar ddechrau eu taith.
 
==== Draenio Corsydd y Dysynni ====