Philip II, brenin Macedon: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Llinell 5:
Roedd Philip yn fab ieuengaf i [[Amyntas III, brenin Macedon]] ac Eurydice. Bu'n wystlon yn [[Thebai]] pan oedd yn ieuanc, yn y cyfnod pan oedd Thebai yn ddinas gryfaf Groeg, a chafodd ei addysgu yno gan y cadfridog enwog [[Epaminondas]]. Dychwelodd i Facedonia yn [[364 CC]], ac wedi marwolaeth ei frodyr Alexander II a Perdiccas III, daeth yn frenin yn 359 CC.
 
Canolbwyntiodd Philip ar gryfhau'r fyddin, ac enillodd nifer o fuddugoliaethau dros y bobloedd o'i amgylch. Yn [[355 CC]], priododd [[Olympias]], merch brenin y [[Molossiaid]]. Ganed Alecsander iddynt y flwyddyn wedyn. Yn [[354 CC]], collodd un llygad wrth warchae ar ddinas Methone, oedd ym meddiant [[Athen]]. Yn raddol, ymestynnodd ei awdurdod dros ddinasoedd Groeg, acer gwaethaf ymdrechion y gwladweinydd [[Athen]]aidd [[Demosthenes]] i ffurfio cynghrair yn ei erbyn. Yn [[342 CC]] ymgyrchodd yn erbyn y [[Scythiaid]], gan gipio Eumolpia a'i hail-enwi yn ''Philippopolis'' ([[Plovdiv]] heddiw).
 
Gorfchygodd gynghrair y Thebaid a'r Atheniaid yn [[Brwydr Chaeronea|Mrwydr Chaeronea]] yn [[338 CC]], ac yn [[337 CC]] sefydlodd [[Cynghrair Corinth|Gynghrair Corinth]]. Yn [[336 CC]], roedd yn paratoi ar gyfer ymosodiad ar Ymerodraeth Persia, ond ym mis Hydref 336 CC, llofruddiwyd ef yn [[Vergina|Aegae]], hen brifddinas Macedon, gan [[Pausanias o Orestis]], un o'i warchodlu ei hun.