Brwydr Chaeronea (338 CC): Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau) Tudalen newydd: Ymladdwyd '''Brwydr Chaeronea''' a 2 Awst 338 CC, rhwng Philip II, brenin Macedon a'i gyngheiriaid a byddin dinas-wladwriaethau Athen a Thebai. Ymladdwyd y fwydr ... |
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau) BDim crynodeb golygu |
||
Llinell 1:
Ymladdwyd '''Brwydr Chaeronea''' a [[2 Awst]] [[338 CC]], rhwng [[Philip II, brenin Macedon]] a'i gyngheiriaid a byddin dinas-wladwriaethau [[Athen]] a [[Thebai]]. Ymladdwyd y fwydr ger [[Chaeronea]] yn [[Boeotia]]. Cynorthwywyd y Macedoniaid gan rai cyngheiriaid Groegaidd, o[[Thessalia]], [[Epirus]], [[Aetolia]] ac eraill.
Bu'n frwydr galed, ond yn y diwedd llwyddodd [[Alecsander Fawr|Alecsander]], mab Philip a chadfridog yr adain chwith, i dorri trwy rengoedd Thebai. Wrth weld hyn, gorchymynodd Philip ymosodiad ffyrnig ar yr Atheniaid, a'u gyrrodd o'r maes. Amgylchynwyd y Thebiaid, a diddefasant golledion trwm.
Gadawodd y frwydr yma Philip yn feistr ar Wlad Groeg, ac yn fuan wedyn sefydlodd [[Cynghrair Corinth|Gynghrair Corinth]] dan arweiniad [[Macedon]].
|