Seleucus I Nicator: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Llinell 7:
Dan [[Cytundeb Triparadisus|Gytundeb Triparadisus]] yn [[321 CC]], rhoddwyd [[Babilon]] i Seleucus. Gorfodwyd ef i ffoi yn [[316 CC]], pan wnaeth [[Antigonus I Monophthalmus|Antigonus]] ei hun yn feistr ar y dwyrain. Aeth Seleucus i'r Aifft, lle bu'n cydweithredu a [[Ptolemi I Soter|Ptolemi]]. Wedi buddugoliaeth Ptolemi ym Mrwydr Gaza yn [[312 CC]], gallodd ddychwelyd i Babilon, ac ystyrir y flwyddyn yma fel blwyddyn sefydlu'r Ymerodraeth Seleucaidd. Llwyddodd i ymestyn ei awdurdod dros ran helaeth o'r dwyrain, cyn belled ag [[Afon Jaxartes]] ac [[Afon Indus]] yn [[India]]. Bu'n ymladd a [[Chandragupta]] yn yr ardal yma, ond gwnaed cytundeb heddwch rhyngddynt.
 
Cyhoeddodd ei hun yn frenin ([[basileus]]) yn [[305 CC]], a sefydlodd [[Seleucia ar y Tigris]] fel ei brifddinas. Wedi marwolaeth Apama, priododd Stratonice, merch [[Demetrius Poliorcetes]] yn [[300 CC]]. Gallodd ymestyn ei ymerodraeth tua'r gorllewin hefyd, ac erbyn 281 CC roedd yn feistr ar y rhan fwyaf o hen ymerodraeth Alecsander. Yn y flwyddyn honno, croesodd i'r Chersonese gyda'r beriadbwriad o feddiannu [[Thrace]] a Macedonia ei hun, ond llofruddiwyd ef gan [[Ptolemi Keraunos]] ger [[Lysimachia (Thrace)|Lysimachia]]. Olynwyd ef gan ei fab, [[Antiochus I Soter]].