Owen Morgan Edwards: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Thaf (sgwrs | cyfraniadau)
Manylion teuluol
Thaf (sgwrs | cyfraniadau)
B ffynonellau
Llinell 3:
 
==Bywgraffiad==
Ganwyd Edwards ar 26 Rhagfyr 1858 ynyng ''Ngoedypry'', [[Llanuwchllyn]],<ref>{{dyf llyfr| url=http://books.google.co.uk/books?id=q-9LxdX7N9AC&pg=PA76&lpg=PA76&dq=%22coedypry,+Llanuwchllyn%22&source=web&ots=LIjq0AKlrN&sig=qfCEdbh3CS16xcBbgr6TXCqBDiM&hl=en&sa=X&oi=book_result&resnum=3&ct=result#PPA77,M1| teitl=Dictionary of British Educationists| awdur=Richard Aldrich, Peter Gordon| cyhoeddwr=Routledge| blwyddyn=1989| isbn=9780713001778}}</ref> yn fab i Owen Edwards, ffermwr, ac Elizabeth.<ref name="Cyfrifiad 1871">Cyfrifiad 1871, Coedypry, Llanuchwllyn. RG 10/5685</ref> Cafodd ei addysg yn ysgol y plwyf cyn mynychu [[Ysgol Ramadeg y Bala]], ac yna yng [[Coleg Prifysgol Cymru Aberystwyth|Ngholeg Prifysgol Cymru Aberystwyth]]. Oddi yno aeth i [[Glasgow]] am gyfnod ac yna i [[Coleg Balliol, Rhydychen|Goleg Balliol, Rhydychen]] lle 'roedd yn un o sefydlwyr [[Cymdeithas Dafydd ap Gwilym]]. Graddiodd gyda gradd dosbarth cyntaf mewn Hanes Modern.
 
Cafodd yrfa hir fel golygydd cylchgronau. Dechreuodd fel cyd-olygydd ''[[Cymru Fydd (cylchgrawn)|Cymru Fydd]]'' ([[1889]]-[[1891]]), cylchgrawn y mudiad gwleidyddol o'r un enw (gweler [[Cymru Fydd]]). Yn 1891 dechreuodd olygu a chyhoeddi y cylchgrawn ''[[Cymru (cylchgrawn)|Cymru]]'' (1891-[[1920]]) yn fisol, a adwaenir yn aml fel y "''Cymru Coch''", oherwydd lliw y clawr. Yn yr un flwyddyn dechreuodd gyhoeddi y cylchgrawn misol i blant ''[[Cymru'r Plant]]''; ar ei anterth yn [[1900]] roedd hwn yn gwerthu tua 40,000 o gopïau y mis, sy'n ei wneud y cyhoeddiad mwyaf poblogaidd erioed yn [[hanes Cymru]].
Llinell 10:
 
Golygodd a chyhoeddodd ddwy gyfres bwysig o glasuron rhyddiaith a barddoniaeth Cymraeg, sef [[Cyfres y Fil]] (37 cyfrol) a [[Llyfrau ab Owen]]. Cyhoeddodd yn ogystal '''Cyfres Clasuron Cymru'''. Cafodd y llyfrau bach deniadol, rhad a safonol hyn ddylanwad mawr ar feddylfryd y Cymry.
 
Enwyd [[Ysgol O M Edwards]] yn Llanuwchlyn ar ei ôl er mwyn ei arhydeddu.
 
==Llyfryddiaeth==
Llinell 36 ⟶ 38:
 
==Teulu==
''Coedypry'', Llanuwchllyn oedd cartref O.M. Edward a'i deulu yn 1871, roedd ei dad yn ffermwr 17 acer ar y pryd.<ref> name="Cyfrifiad 1871," Coedypry, Llanuchwllyn. RG 10/5685</ref> Yn ystod cyfrifiad 1881 roedd yn letywr yn Meyrick House, [[Dolgellau]], rhestrwyd ei alwedigaeth fel ''Minister Calvinistic Methodist Body''.<ref>Cyfrifiad 1881, Meyrick House, Meyrick Street, Dolgellau. RG 11/5546</ref> Erbyn 1891, roedd yn byw adref gyda'i rieni unwaith eto yng ''Nghoedypry'', rhestrwyd ei alwedigaeth fel athro hanes. Roedd ei frodyr, Thomas (melinydd), Edward (myfyriwr athroniaeth) a John M. (myfyriwr diwinyddiaeth) hefyd yn byw gyda hwy.<ref>Cyfrifiad 1891, Coedypry, Llanuchwllyn. RG 12/4639</ref> Priododd Ellen Elizabeth Davies yn fuan ar ôl hynny.<ref>Mynegai Cofrestr Priodasau Lloegr a Cymru: Owen Morgan Edwards & Ellen Elizabeth Davies; chwarter cofrestr: Ebrill&ndash;Mehefin 1891; Ardal cofrestru: Bala; Cyfrol: 11b; Tudalen; 597.</ref> Roedd Edwards yn byw ym ''Mrynaber'', Llanuwchllyn yn ystod cyfrifiad 1901, gyda'i wraig, ei fab Evan ab Owen a'i ferch, Haf. Roedd dwy forwyn hefyd yn byw gyda'r teulu. Rhestrwyd ei alwedigaeth fel ''Fellow of College & Lecturer''.<ref>Cyfrifiad 1901, Glanaber, Llanuchwllyn. RG 13/1520</ref>
 
==Ffynonellau==
<references/>
 
==Dolenni allanol==
*[http://ead.llgc.org.uk/arddangos_fs.php?iaith=cym&saan=0000172810 'Papurau O. M. Edwards' yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru]
*[http://www.rootsweb.com/~wlsmer2/Cartrefi/index.htm Testun ''Cartrefi Cymru''' o rootsweb.com]
 
 
{{dechrau-bocs}}