Ordoficiaid: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B →Maen Corbalengus: clean up, replaced: 6ed ganrif → 6g using AWB |
Sian EJ (sgwrs | cyfraniadau) |
||
Llinell 5:
==Hanes==
[[Delwedd:Dinas Dinorwig - geograph.org.uk - 227607.jpg|250px|bawd|Safle bryngaer [[Dinorwig (bryngaer)|Dinorwig]], Gwynedd]]
Credir fod enw'r llwyth yn dod o'r gair [[Brythoneg]] sy'n cyfateb i ''gordd''' yn [[Cymraeg|Gymraeg]] (cymharer yr [[Hen Wyddeleg]] ''Ord'' "morthwyl").
Fodd bynnag erbyn dechrau'r 70au yr oedd yr Ordoficiaid yn ymladd yn erbyn Rhufain eto, a llwyddasant i ddinistrio corff o farchogion yn llwyr. Ymosodwyd arnynt gan [[Agricola|Gnaeus Julius Agricola]] yn [[77]]/[[78]] O.C. a'u gorchfygu. Yn ôl yr hanesydd [[Tacitus]], mab-yng-nghyfraith Agricola, lladdodd bron bob copa gwalltog o'r llwyth. Nid yw hynny'n debygol o ystyried natur tiriogaeth y llwyth a'i nifer, ac mae'r cofnod archaeolegol yn awgrymu fod garsiynau wedi eu cadw yn y caerau Rhufeinig yn nhiriogaeth yr Ordoficiaid am gyfnod hwy nag mewn mannau eraill yng Nghymru. Mae hyn yn awgrymu fod yr Ordoficiaid nid yn unig yn parhau mewn bodolaeth ond yn parhau i gael eu hystyried fel perygl posib.
|