Rhodri Mawr: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B →‎Llyfryddiaeth: 4 gweithred, replaced: {{Authority control}} → {{Rheoli awdurdod}} using AWB
Sian EJ (sgwrs | cyfraniadau)
B →‎top: Rhedeg AWB i glirio gwallau using AWB
Llinell 1:
'''Rhodri Mawr''', enw llawn '''Rhodri ap Merfyn''' (c. [[820]]–[[878]]) oedd y [[brenin]] cyntaf i reoli'r rhan fwyaf o [[Cymru|Gymru]] a'r cyntaf hefyd i gael ei alw'n "Fawr".
 
Yr oeddRoedd Rhodri yn fab i [[Merfyn Frych]], a ddaeth yn frenin [[Teyrnas Gwynedd|Gwynedd]] ar farwolaeth ei dad yn [[844]], a'r dywyoges Nest o Bowys. Pan fu ei ewythr [[Cyngen]], brenin [[Teyrnas Powys|Powys]], farw ar [[Pererindod|bererindod]] i [[Rhufain|Rufain]] yn [[855]], etifeddodd Rhodri ei deyrnas ef hefyd. Yn [[872]] boddwyd trwy ddamwain [[Gwgon ap Meurig]], brenin [[Teyrnas Ceredigion|Ceredigion]] a [[Seisyllwg]], ac ychwanegodd Rhodri ei deyrnas yntau at ei feddiannau trwy ei briodas ag Angharad, chwaer Gwgon. Yr oeddRoedd yn awr yn frenin ar y rhan fwyaf o Gymru.
 
Yr oeddRoedd Rhodri yn gorfod wynebu pwysau gan yr [[Eingl-Sacsoniaid]] ac yn gynyddol gan y [[Daniaid]] hefyd, a fuont yn ôl y [[Brut y Tywysogion|croniclau]] yn anrheithio [[Môn]] yn [[854]]. Yn [[856]] enillodd Rhodri fuddugoliaeth nodedig dros y Daniaid ym [[Brwydr Llandudno|Mrwydr Llandudno]] gan ladd eu harweinydd [[Gorm]] (a elwir weithiau yn Horm). Mae dwy gerdd gan [[Sedulius Scotus]] wedi ei hysgrifennu yn llys [[Siarl Foel]], brenin y [[Ffranciaid]] Gorllewinol, yn dathlu buddugoliaeth "Roricus" dros y [[Llychlynwyr]].
 
Cafodd Rhodri fuddugoliaeth arall yn erbyn y Daniaid ym [[Brwydr Parciau|Mrwydr Parciau]] yn 872.