Pensaernïaeth Gothig: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Ham II (sgwrs | cyfraniadau)
llun
Ham II (sgwrs | cyfraniadau)
ieithoedd eraill
Llinell 1:
[[Image:Paris.notre.dame.750pix.jpg|thumb|right|Eglwys gadeiriol [[Notre Dame]], [[Paris]]]]
 
Arddull [[Canol Oesoedd|canoloesol]] o [[pensaernïaeth|bensaernïaeth]] yw '''Gothig'''. Datblygodd yn [[Ffrainc]] yn y [[12fed ganrif]] o'r arddull Romanesg (a elwir yn [[Normanaidd]] yn yr [[Prydain|Ynysoedd Prydeinig]]) ac yna lledodd drwy [[Ewrop]] gyfan. Tra'r oedd pensaernïaeth Romanesg yn seiliedig ar ddulliau adeiladu'r [[Rhufeiniaid]], roedd Gothig yn seiliedig ar dechnegau newydd, yn bennaf y [[bwa]] pwyntiog. Drwy ddefnyddio bwâu pwyntiog roedd yn bosib adeiladu ffenestri llawer mwy nag o'r blaen ac mae [[ffenestri lliw]] trawiadol yn nodweddiadol o [[eglwys|eglwysi]]'r cyfnod.
 
Roedd cymeriad gwahanol iawn gan arddulliau Gothic lleol gwahanol wledydd – er enghraifft, yn [[yr Almaen]] a'r [[Iseldiroedd]] roedd briciau yn ddeunydd poblogaidd, tra bo [[tywodfaen]] yn cael ei ddefnyddio ar gyfer [[eglwys gadeiriol|cadeirlannau]] Ffrainc a [[Lloegr]].
 
O'r [[Dadeni Dysg]] ymlaen ystyrrwyd pensaernïaeth Gothig yn farbaraidd a daeth adeiladau yn yr arddull clasurol yn fwyfwy ffasiynol. Dim ond yn y [[19eg ganrif]], pan ddatblygodd delwedd rhamaintaidd o'r Oesoedd Canol, y bu adfywiad o'r arddull, a ddechreuodd ym [[Prydain|Mhrydain]]. Yn dilyn effeithiau gwaethaf y [[Chwyldro Diwydiannol]] roedd llawer o feddylwyr y cyfnod am ddychwelyd at ethos gwaith a [[Cristnogaeth|Christnogaeth]] yr Oesoedd Canol, a mynegwyd hyn drwy bensaernïaeth yr oes. Parhaodd defnydd o'r arddull Gothig ar gyfer rhai eglwysi a [[prifysgol|phrifysgolion]] yn yr [[20fed ganrif]].
 
{{stwbyn}}
 
[[Category:Pensaernïaeth|Gothig]]
 
[[cs:Gotická architektura]]
[[da:Gotisk]]
[[de:Gotik]]
[[en:Gothic architecture]]
[[eo:Gotiko]]
[[fr:Architecture gothique]]
[[it:Architettura gotica]]
[[ja:ゴシック建築]]
[[nl:Gotiek]]
[[pl:Architektura gotycka]]
[[pt:Estilo gótico]]
[[ro:Arhitectură gotică]]
[[ru:Готика]]
[[simple:Gothic architecture]]
[[sk:Gotika]]
[[fi:Gotiikka]]
[[sv:Gotikens arkitektur]]
[[uk:Ґотика]]