Antigonos I Monophthalmos: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
VolkovBot (sgwrs | cyfraniadau)
B robot yn ychwanegu: eu:Antigono Monoftalmos
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Llinell 1:
[[Image:Antigone le Borgne (pièce).jpg|thumb|Darn arian gyda delw Antigonus I]]
 
Cadfridog [[Macedon|Macedonaidd]] dan [[Alecsander Fawr]] ac ddiweddarach sylfaenydd brenhinllin yr Antigoniaid oedd '''Antigonos I Monophthalmos''' ([[Hen Roeg]]: {{Hen Roeg|Ἀντίγονος ὁ Μονόφθαλμος neu Μονοφθαλμός}}, "Antigonos yr Unllygeidiog") ([[382 CC]] - [[301 CC]]). Roedd yn fab i [[Philip (mab Machatas)|Philip]] o [[Elimiotis|Elimeia]]. Apwyntiwyd ef yn rhaglaw [[Phrygia]] Fwyaf yn [[333 CC]], ac wedi marwolaeth Alecsander yn [[323 CC]], derbyniodd [[Pamphylia]] a [[Lycia]] gan [[Perdiccas]], oedd yng ngofal yr ymerodraeth. Daeth Perdiccas yn elyn iddo pan wrthododd gynorthwyo [[Eumenes]] i feddiannu'r rhannau o'r ymerodraeth oedd wedi eu rhoi iddo ef, a bu raid i Antigonos ef a'i fab [[Demetrius I Poliorcetes|Demetrius]] ffoi i [[Gwlad Groeg|Wlad Groeg]], lle'r enilodd ffafr Antipater, rheolwr Macedonia.
 
Cymerodd ran amlwg yn y brwydro rhwng y [[Diadochi]], olynwyr Alecsander, a ddilynodd, ac enillodd ddwy frwydr fawr yn erbyn Eumenes, yn Paraitacene yn [[317 CC]] a Gabiene yn [[316 CC]]. Llwyddodd i gipio trysorau [[Susa]] a meddiannodd [[Babylon]], gan orfodi [[Seleucus I Nicator]] i ffoi. Wedi llawer o frwydro, gwnaed heddwch yn [[311 CC]], gydag Antigonos yn cael rheolaeth ar Asia Leiaf a Syria, ond yn fuan bu ymladd eto.