([[Acadeg]]: '''''Aššur'''''). Defnyddir yr enw hefyd am y wladwriaeth a sefydlwyd yn yr ardal yma, a dyfodd yn ymerodraeth. Daw'r enw o enw'r brifddinas wreiddiol, [[Assur]].
Yn ystod y cyfnod cynnar, o'r 20fed ganrif20g CC hyd y 15g CC, roedd Assyria yn rheoli'r rhan fwyaf o ran uchaf [[Mesopotamia]]. O'r cyfnod yma hyd y 10g CC, lleihaodd ei grym, cyn iddi ennill grym eto trwy orchfygu ei chymdogion. Ymestynnodd ei dylanwad ymhellach dan [[Ymerodraeth Newydd Assyria]], 911 CC hyd [[612 CC]]. Dan ei brenin [[Ashurbanipal]], a deyrnasodd o [[668 CC]] hyd [[627 CC]], roedd yr ymerodraeth yn ymestyn cyn belled a'r [[Yr Hen Aifft|Aifft]]. Yn ddiweddarach, collwyd yr ymerodraeth yn dilyn goresgyniadau [[Babilon]] a [[Persia]].
Heblaw Assur, roedd ei dinasoedd pwysig yn cynnwys Kalhu ([[Nimrud]]) a [[Ninefeh]].