Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Brwydr Mechain"

Lleihawyd o 2 feit ,  4 o flynyddoedd yn ôl
B
→‎top: Rhedeg AWB i glirio gwallau using AWB
(manion, categoriau)
B (→‎top: Rhedeg AWB i glirio gwallau using AWB)
Brwydr rhwng [[Bleddyn ap Cynfyn]] a dau fab [[Gruffudd ap Llywelyn]] oedd '''Brwydr Mechain''' a ymladdwyd yn y flwyddyn [[1070]] yng [[Cantref|nghantref]] [[Mechain]] yn [[Teyrnas Powys|nheyrnas Powys]].
 
Yr oeddRoedd Bleddyn yn fab i [[Cynfyn ap Gwerstan]] o hil brenhinol Powys. Pan laddwyd [[Gruffudd ap Llywelyn]] gan ei wyr ei hun ar ôl ei orchfygu gan [[Harold Godwinson]] yn [[1063]], rhannwyd ei deyrnas rhwng nifer o dywysogion. Talodd Bleddyn a'i frawd [[Rhiwallon ap Cynfyn|Rhiwallon]] wrogaeth i Harold a derbyniasant deyrnasoedd Gwynedd a Phowys. Yn [[1067]] ymunodd Bleddyn a Rhiwallon ag Eadric o [[Mersia|Fersia]] i ymosod ar y [[Normaniaid]] yn [[Henffordd]], yna yn [[1068]] gwnaethant gynghrair a'r Iarll Edwin o Mersia a'r Iarll Morcar o [[Northumbria]] i ymosod ar y Normaniaid eto.
 
Fe geisiodd dau fab Gruffudd ap Llywelyn gipio'r deyrnas o ddwylo Bleddyn, ond gallodd eu gorchfygu ym mrwydr Mechain yn 1070. Lladdwyd un o'r ddau yn y frwydr a bu farw'r llall o oerni ar ôl y frwydr. Lladdwyd Rhiwallon, brawd Bleddyn, yn y frwydr hon hefyd, ac o hynny ymlaen bu Bleddyn yn teyrnasu ar Wynedd a Phowys ei hun tan ei farwolaeth.
58,004

golygiad