Defnyddiwr:Twm Elias/Anifeiliaid amrywiol: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Twm Elias (sgwrs | cyfraniadau)
→‎CEFFYLAU: adio cod i wneud hi'n haws i rywun gopio
Twm Elias (sgwrs | cyfraniadau)
Llinell 165:
==GWARTHEG==
 
Defnyddid gwartheg i aredig cyn gynhared â'r [[Oes Efydd]] ac erbyn yr [[Oes Haearn]] ceid amryw o fathau, yn cynnwys y fuwch Geltaidd fechan fyrgorn; o'r hon y tarddodd y rhan fwyaf o'r bridiau llaethog modern. Yng [[Cyfraith Hywel|Nghyfraith Hywel]] disgrifir gweddoedd o 2, 4, 6 neu 8 ychen yn tynnu [[aradr]]. Roedd gwartheg yn unedau ariannol a thardda'r gair “cyfalaf”'cyfalaf' o 'alaf' sef y gair am yrr o wartheg.
 
Tan y [[16g|16]] - [[17g]] symudid gwartheg yn dymhorol rhwng hafod a hendre ynghyd â geifr ac ychydig ddefaid, ond erbyn y [[18g]] porid y mynydd-dir bellach gan ddefaid yn unig. Cynyddodd y farchnad i wartheg Cymreig yn Lloegr yn sylweddol wrth i boblogaeth y dinasoedd dyfu'n gyflym trwy'r [[18g|18]] - [[19g]]. Fe'u cerddwyd gan [[porthmon|borthmyn]] i ffeiriau Canolbarth a De-ddwyrain Lloegr.
 
Ceid amryw o fridiau Cymreig, e.e. gwartheg Morgannwg, Maldwyn, Môn, Penfro a llawer o amrywiaethau lleol. Hefyd gwartheg gwynion hanner gwylltion Dinefwr a'r Faenol. O'r [[1850au]], trosglwyddid anifeiliaid yn bennaf ar y [[rheilffordd|rheilffyrdd]] a newidiodd y galw am anifeiliaid bychan caled i rai mwy a gwell eu cyflwr. GraddolYn ddisodlwydraddol, disodlwyd y ffeiriau pentref gan y martiau - a leolid ar fin y rheilffyrdd.
 
Sefydlwyd Cofrestrau Pedigri i wartheg Penfro yn 1874, a Môn yn 1883, a'u cyfuno yn 1905 i ffurfio Bucheslyfr y [[Gwartheg Duon Cymreig]], sy'n frîd rhyngwladol-bwysig erbyn hyn. Diflannodd gwartheg Morgannwg a Maldwyn ddiwedd y [[19g]]. Trwy'r [[20g]] gwellhaodd ansawdd a chynnyrch bridiau yn sylweddol pan sefydlwyd Cymdeithasau Teirw o 1914, y [[Bwrdd Marchnata Llaeth]] yn 1933, [[ffrwythloni artiffisial]] o'r [[1950au]] a throsglwyddo embryonau o'r [[1990au]].
 
Yn y 1950au gwartheg duon Cymreig gynhyrchai'r rhan fwyaf o'r llaeth ar yr ucheldir a buchesi Byrgorn neu Ayrshire ar dir gwaelod. Cynhyrchid cig yn bennaf trwy groesi'r gwartheg â theirw Henffordd. Erbyn y [[1960au]] roedd buchesi bychain y beudy wedi eu newid am fuchesi mwy o wartheg Friesian-Holstein mewn parlyrau godro, i'w croesi â theirw cyfandirol am gig. Aeth ffermydd yr ucheldir i arbenigo mewn cig eidion a defaid a disodlwyd y tarw Henffordd i groesi gan y Charolais a'r Limousin yn y 1970au - 80au.
===Cynhyrchu modern===
Llinell 182:
Cig - O'r 4 - 6 llo gynhyrcha buwch laeth dim ond un, o frîd pur, fydd ei angen i gymryd lle'r fuwch. Felly gall y gweddill fod yn groesiadau â bridiau eraill ar gyfer eu cig. Daw y rhan fwyaf o'r cig a fwytawn felly o'r fuches laeth.
 
Y bridiau cig pwysicaf yng Nghymru yw'r Du Cymreig, Henffordd, Byrgorn, Aberdeen Angus a'r Charolais, Limousin a Simental cyfandirol. Ceir cig eidion o'r ansawdd orau o'r bridiau cig pur, a cheir sawl dull o'i gynhyrchu. Ar ucheldir Cymru cedwir yr anifeiliaid dan do dros y gaeaf fel arfer, a'u bwydo ar wair neu silwair. Pori allan wnânt dros yr haf a bydd y bustych a'r heffrod yn barod i'w lladd pan fyddant bron yn 300kg.
 
==DEFAID==