Cedor: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Marnanel (sgwrs | cyfraniadau)
Llinell 2:
 
==Datblygiad y cedor==
Mewn merched, ymddengys blew cedor ar hyd ymylon y ''labia majora'' yn gytaf fel arfer, gan ledaenu dros y [[mons veneris]] yn y ddwy flynedd a ganlyn. Wedi 2-3 mlynedd o [[glasoed|lasoed]], (a thua'r un amser a chychwyn [[mislifiad]] yn y rhan fwyaf o ferched) mae siap trionglog pendant i'r cedor. Yn y ddwy flynedd ar ôl hynny, mae'r blew yn tyfu ar du fewn y morddwydydd hefyd, ac weithiau mewn llinell tuag at y [[botwm bol]] yn ogystal.
 
Mewn bechgyn, ymddengys y cedor yn gyntaf fel blew mân ar y [[ceillgwd]] neu wrth waelod y [[pidyn]]. O fewn blwyddyn, mae yna flew o gwmpas gwaelod y pidyn. O fewn 3-4 mlynedd, mae'r blew yn gorchuddio'r ardal gyfagos, ac yn dod yn fwy trwchus a thywyll. Wedi oddeutu 5 mlynedd o lasoed, mae'r blew yn ymestyn i du fewn y morddwydydd, ac i fynny tua'r botwm bol yn ogystal.