Panaji: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Tudalen newydd: Panaji (Konkani: पणजी /pɵɳɟĩ/ ) yw prif ddinas y dalaith Indiaidd, Goa. Fe'i lleolir ar lannau aber yr afon Mandovi, yng Ngogledd Goa. Mae gan y d... |
(Dim gwahaniaeth)
|
Fersiwn yn ôl 09:01, 15 Ionawr 2009
Panaji (Konkani: पणजी /pɵɳɟĩ/ ) yw prif ddinas y dalaith Indiaidd, Goa. Fe'i lleolir ar lannau aber yr afon Mandovi, yng Ngogledd Goa. Mae gan y ddinas boblogaeth o 65,000 (a phoblogaeth metropolitanaidd o 100,000 os cynhwysir y maesdrefi), gan wneud Panaji yn drydedd ddinas fwyaf Goa ar ôl Vasco a Margao.
Etymoleg
Ar hyn o bryd, enw swyddogol y ddinas yw Panaji. Yr enw Portiwgiaidd oedd Pangim. Gelwir y ddinas yn Panjim yn Saesneg. Ers y 1960au mae wedi cael ei sillafu fel Panaji a chaiff ei alw'n Ponnje yn Konkani, prif iaith yr ardal leol.