Mae Goa yn dalaith arfordirol yng ngorllewin India. Fe'i lleolir yn yr ardal o'r enw Konkan. Mae hi'n ffinio â Maharashtra yn y gogledd a Karnataka yn y de a'r dwyrain. Goa yw'r dalaith leiaf o ran arwynebedd a'r bedwaredd leiaf o ran poblogaeth. Nid yw'n dalaith fawr, gydag arwynebedd tir o ddim ond 3659 km². Mae ganddi boblogaeth o tua 1.4 miliwn (1999).

Goa
Mathtalaith India Edit this on Wikidata
PrifddinasPanaji Edit this on Wikidata
Poblogaeth1,458,545 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 29 Mai 1987 Edit this on Wikidata
Pennaeth llywodraethPramod Sawant Edit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC+05:30 Edit this on Wikidata
Iaith/Ieithoedd
  swyddogol
Konkaneg Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolWest India Edit this on Wikidata
SirIndia Edit this on Wikidata
GwladBaner India India
Arwynebedd3,702 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr1,167 metr Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaMaharashtra, Karnataka Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau15.40194°N 74.04333°E Edit this on Wikidata
Cod post403XXX Edit this on Wikidata
IN-GA Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
Corff gweithredolGoa Legislative Assembly Edit this on Wikidata
Corff deddfwriaetholGoa Legislative Assembly Edit this on Wikidata
Pennaeth y wladwriaethMridula Sinha, B. D. Mishra Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y Llywodraeth
Chief Minister of Goa Edit this on Wikidata
Pennaeth y LlywodraethPramod Sawant Edit this on Wikidata
Map

Ei phrifddinas yw Panaji er mai Vasco de Gama yw'r ddinas fwyaf. Gwelir dylanwad diwylliant Portiwgeaidd ar ddinas hanesyddol Margao wedi i'r Portiwgeaid lanio yno yn yr 16g, gan goncro'r ardal yn fuan ar ôl hynny. Parhaodd Goa o dan reolaeth Portiwgal am tua 450 o flynyddoedd, tan iddi gael ei uno gydag India ym 1961.

Y prif ieithoedd yw Konkaneg a Marathi ac mae rhai pobl yn siarad Saesneg a Phortiwgaleg yn ogystal.

Mae Goa yn ganolfan boblogaidd gan dwristiaid o'r Gorllewin ac mae'r GNP yn uchel yn nhermau India. Mae'r dalaith yn enwog am ei thraethau, mannau addoli a phensaernïaeth treftadaeth y byd.

Lleoliad Goa yn India

Gweler hefyd golygu


 
Taleithiau a thiriogaethau India
Taleithiau Andhra PradeshArunachal PradeshAssamBiharChhattisgarhGoaGorllewin BengalGujaratHaryanaHimachal PradeshJharkhandKarnatakaKeralaMadhya PradeshMaharashtraManipurMeghalayaMizoramNagalandOrissaPunjabRajasthanSikkimTamil NaduTelanganaTripuraUttarakhandUttar Pradesh
Tiriogaethau Ynysoedd Andaman a NicobarChandigarhDadra a Nagar HaveliDaman a DiuDelhiJammu a KashmirLakshadweepPuducherry
  Eginyn erthygl sydd uchod am India. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.