Owain Lawgoch: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
Llinell 22:
Roedd brenhinllin Lloegr o Ffrainc yn wreiddiol, ac roedd y brenhinoedd Angevin yn dal tiroedd eang yn [[Normandi]], [[Maine (Ffrainc)|Maine]], [[Anjou]], [[Touraine]], [[Poitou]], [[Gasgwyn]], [[Saintonge]] ac [[Aquitaine]], gan ffurfio'r [[ymerodraeth Angevin]]. Yn raddol, collwyd llawer o'r tiroedd hyn yn ystod y cyfnod rhwng [[1214]] a [[1324]]. Yn [[1328]], bu farw [[Siarl IV, brenin Ffrainc]], heb adael mab. Roedd hyn yn golygu diwedd llinach uniongyrchol y brenhinoedd Capetaidd. Roedd [[Edward III, brenin Lloegr]] ymhlith y rhai oedd yn hawlio gorsedd Ffrainc, ond penderfyniad uchelwyr Ffrainc oedd coroni [[Philip VI, brenin Ffrainc|Philip o Valois]], oedd o linach arall o'r Capetiaid, a ddaeth yn frenin fel Philip VI, y cyntaf o Frenhinllin Valois.
 
Ym 1337, cyhoeddodd Edward III mai ef oedd gwir frenin Ffrainc, a dechreuosdd y rhyfel. Ym mis Gorffennaf [[1346]], ymosododd Edward III ar Ffrainc, ac yn fuan wedyn enillodd fuddugoliaeth dros y Ffrancwyr ym [[Brwydr CrecyCrécy|Mrwydr CrecyCrécy]]. Y prif reswm dros y fuddugoliaeth oedd effeithiolrwydd y [[bwa hir]].
 
Yn [[1348]], effeithiwyd ar Ewrop gan [[y Pla Du]], a chymerodd rai blynyddoedd cyn i'r teyrnasoedd fedru adfer eu nerth. Yn [[1356]], ymosododd [[Edward, y Tywysog Du]], mab Edward III, ar Ffrainc, ac enillodd fuddugoliaeth fawr arall ym [[Brwydr Poitiers (1356)|Mrwydr Poitiers]], eto yn bennaf oherwydd defnydd y bwa hir. Cymerwyd brenin Ffrainc, [[Jean II, brenin Ffrainc|Jean II]], yn garcharor. Yn ddiweddarch y flwyddyn honno rhoddodd Cytundeb Llundain diriogaeth [[Aquitaine]] i Loegr yn gyfnewid am ei ryddid.