Eisteddfod Corwen 1789: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Tudalen newydd: Eisteddfod a gynhaliwyd gan y Gwyneddigion yn nhref Corwen, Sir Ddinbych, ym mis Medi 1789 oedd '''Eisteddfod Corwen 1789'''. Dyma'r esiteddfod gyntaf i gael ei t...
 
BDim crynodeb golygu
Llinell 1:
[[Eisteddfod]] a gynhaliwyd gan y [[Gwyneddigion]] yn nhref [[Corwen]], [[Sir Ddinbych]], ym mis Medi [[1789]] oedd '''Eisteddfod Corwen 1789'''. Dyma'r esiteddfod gyntaf i gael ei threfnu gan y Gwyneddigion. Er mai eisteddfod ar gyfer [[gogledd Cymru]] oedd hi yn bennaf, mae'n cael ei gweld fel carreg filltir yn hanes datblygiad [[Eisteddfod Genedlaethol Cymru]].
 
[[Thomas Jones (Bardd NantglynDinbych)|Thomas Jones o Ddinbych]] a wnaeth yr holl drefniadau, a hynny ar ei gost ei hun. Cafwyd gwobr o gledrffon arian gyda llun telyn arni gan y bonheddwr lleol Robert Williams Vaughan o Rug a [[Nannau]]. Rhoddodd [[Edward Jones (Bardd y Brenin)]] dlws i'r buddugwr [[Cerdd Dant]].
 
Roedd "I [[Owain Glyndŵr]]" yn un o destunau'r eisteddfod. Cafwyd cerddi ar y testun gan [[Twm o'r Nant]] a [[Walter Davies (Gwallter Mechain)]]. Diddorol nodi i'r eisteddfod gael ei chynnal yng Ngwesty Owain Glyndŵr. Enillodd Walter Davies y tlws, er mawr siomedigaeth i Twm o'r Nant ac eraill. Bu cryn trafod ac ymgecru am y dyfarniad gyda chyhuddiadau o lwgrwobrwyo a chynllwyn yn erbyn Walter Davies.