Corwen
Tref fach a chymuned yn Sir Ddinbych, yw Corwen. Saif yn Nyffryn Edeirnion ar lôn yr A5 rhwng Betws-y-Coed (23 milltir) a Llangollen (11 milltir). I'r gogledd mae Rhuthun (13 milltir) ac i'r de y mae'r Bala (12 milltir).
Math | cymuned, tref |
---|---|
Poblogaeth | 2,244 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Sir Ddinbych |
Gwlad | Cymru |
Yn ffinio gyda | Cynwyd |
Cyfesurynnau | 52.98°N 3.379°W |
Cod SYG | W04000147 |
Cod OS | SJ075435 |
Cod post | LL21 |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Ken Skates (Llafur) |
AS/au y DU | Liz Saville Roberts (Plaid Cymru) |
Statws treftadaeth | Henebion Cenedlaethol Cymru |
Manylion | |
Mae Afon Dyfrdwy yn llifo heibio i'r dref. Yn yr Oesoedd Canol roedd Corwen yn rhan o gwmwd Dinmael. Mae gan y dref gysylltiadau ag Owain Glyndŵr; cymysg fu'r ymateb i'r cerflun cyntaf o'r arwr a godwyd ar y sgwâr, ond mae'r Tywysog ar ei farch (gweler y llun) wedi'i dderbyn gyda breichiau agored. Bob blwyddyn ers 2009 ceir gorymdaith drwy'r dref a dathliadau dros gyfnod o ddeuddydd i ddathlu Diwrnod Glyn Dŵr (Medi 16). Ceir hefyd hen domen neu fwnt sef Castell Glyndŵr tua kilometr i'r dwyrain, i gyfeiriad y Waun.
Dyma ble'r oedd Pafiliwn Corwen.
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Ken Skates (Llafur) ac yn Senedd y DU (San Steffan) gan Simon Baynes (Ceidwadwyr).[1][2]
Pobl o Gorwen
golygu- Mary Lloyd (1819–96), ffeminist, cerflunydd a lesbiad Cymreig arloesol o deulu Plas Rhagad
- Elena Puw Morgan (1900-73), nofelydd
- D. Tecwyn Lloyd (1914-92), awdur a golygydd
Eisteddfodau
golygu- Cynhaliwyd Eisteddfod Corwen gan y Gwyneddigion ym 1789.
- Cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol Cymru Corwen ym 1919.
Atyniadau yn y cylch
golygu- Caer Drewyn - bryngaer o Oes yr Haearn ar Fynydd y Gaer a gysylltir ag Owain Gwynedd ac Owain Glyn Dŵr
- Mwnt Owain Glyndŵr - 3 milltir i'r dwyrain
- Y Rug - plasdy'r Salbriaid a'r Wynniaid ar ei hôl hwy, lle ceir Capel y Rug (yng ngofal Cadw).
- Rheilffordd Llangollen
Cyfrifiad 2011
golyguYng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[3][4][5]
Oriel
golygu-
Corwen, tua 1778
-
Yr hen westy, tua 1875
-
Dathliadau Owain Glyn Dŵr; Medi 2013
-
Dathliadau Owain Glyn Dŵr; Medi 2013
-
Dathliadau Owain Glyn Dŵr; Medi 2013
-
Tafarn y Delyn a Banc y Nat West, canol y dref.
-
Eglwys Sant Mihangel a Sant Sulien
-
Twr a chloc yr eglwys
-
Ffenestr
-
Y "Coleg" yng ngefn yr eglwys
-
Cefn yr eglwys
-
Yr eglwys o'r llwybr ochor
Gweler hefyd
golygu- Croes Corwen: croes eglwysig
- Gorsaf reilffordd Corwen
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Gwefan y Cynulliad;[dolen farw] adalwyd 24 Chwefror 2014
- ↑ Gwefan parliament.uk; adalwyd 24 Chwefror 2014
- ↑ "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
- ↑ Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
- ↑ Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
Dinas
Llanelwy
Trefi
Corwen · Dinbych · Llangollen · Prestatyn · Rhuddlan · Rhuthun · Y Rhyl
Pentrefi
Aberchwiler · Betws Gwerful Goch · Bodelwyddan · Bodfari · Bontuchel · Bryneglwys · Bryn Saith Marchog · Carrog · Cefn Meiriadog · Clocaenog · Cwm · Cyffylliog · Cynwyd · Derwen · Diserth · Y Ddwyryd · Efenechtyd · Eryrys · Four Crosses · Gallt Melyd · Gellifor · Glyndyfrdwy · Graeanrhyd · Graigfechan · Gwyddelwern · Henllan · Loggerheads · Llanarmon-yn-Iâl · Llanbedr Dyffryn Clwyd · Llandegla · Llandrillo · Llandyrnog · Llandysilio-yn-Iâl · Llanelidan · Llanfair Dyffryn Clwyd · Llanferres · Llanfwrog · Llangwyfan · Llangynhafal · Llanrhaeadr-yng-Nghinmeirch · Llanynys · Maeshafn · Melin y Wig · Nantglyn · Pandy'r Capel · Pentrecelyn · Pentre Dŵr · Prion · Rhewl (1) · Rhewl (2) · Rhuallt · Saron · Sodom · Tafarn-y-Gelyn · Trefnant · Tremeirchion