Magnus Bäckstedt: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Alan012 (sgwrs | cyfraniadau)
B treigliadau
B0LL0CKS (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Llinell 1:
{{Gwybodlen Seiclwyr
| enwreidr = Magnus Bäckstedt
| image = [[Delwedd:Magnus Backstedt.jpg|200px|Magnus Bäckstedt]]
| enwllawn = Magnus Bäckstedt
| nickname = Magnus Maximus
| dyddiadgeni = 30 Ionawr 1975
| dyddiadmarw =
| gwlad = [[Delwedd:Flag of Sweden.svg|22px]] Sweden
| taldra = 1.93m
| pwysau = 94kg
| timpresennol = Liquigas
| discipline = Ffordd a weithiau Trac
| rol = Reidiwr
| mathoreidiwr = Arbenigwr y Clasuron
| blynyddoeddamatur =
| timamatur =
| blynyddoeddpro = 1996–1997
1998–2001
2002–2003
2004
2005–
| timpro = Collstrop-Palmans
Crédit Agricole
Team Fakta
Alessio-Bianchi
Liquigas
| prifgampau = Paris-Roubaix, 2004
Cam 1, Tour de France, 2005
| diweddarwyd = [[19 Medi]], [[2007]]

Seiclwr ffordd proffesiynol o [[Sweden]] ydy '''Magnus Bäckstedt''' (ganwyd [[30 Ionawr]] [[1975]] yn [[Linköping]], [[Östergötland]]). Mae'n reidio dros dîm [[Liquigas]]. Mae Magnus wedi ennill y llysenw 'Magnus Maximus' ([[Cymraeg]]: ''Magnus Mawr'') gan ei fod yn 193 [[centimedr]] o daldra â phwysau o 94 [[cilogram]], ef yw un o'r seiclwyr mwyaf ym myd seiclo proffesiynol.
Dechreuodd ei yrfa proffesiynol gan reidio i dîm [[Collstrop]] yn [[1996]], cyn symyd ymlaen i dîm [[Palmans]] yn [[1997]]. Wedi newid i dîm [[Crédit Agricole|GAN]], yn [[1998]], dechreuodd lwyddiant proffesiynol Bäckstedt gyda 7fed safle yn ras [[Paris-Roubaix]] abuddugoliaeth ar Gam 19 y [[Tour de France]] rhwng [[Chaux-de-Fonds]] a [[Autun]]. Ailenwyd GAN yn Crédit Agricole ar ddechrau tymor rasio [[1999]] a chariodd Magnus ymlaen i fod yn aelod o'r tîm tan [[2001]], heb ail-adrodd ei lwyddiant o 1998.

Yn [[2002]] a [[2003]], reidiodd dros dîm [[Team Fakta]], ef oedd y reidiwr cryfaf yn y tîm yn nhymor 2003. Wedi i dîm Team Fakta ddod i ben, symudodd i dîm [[Alessio-Bianchi]] a dychwelodd i lwyddiant yn ras [[Paris-Roubaix]] 2004. Symudodd i dîm [[Liquigas|Liquigas-Bianchi]] yn [[2005]], a bu'n ail safle ar Gam 7 y [[Tour de France]], o [[Lunéville]] i [[Karlsruhe]].

Bydd Bäckstedt yn reidio yn nhîm [[Team Slipstream]] yn nhymor 2008<ref name="backstedt">[http://londoncyclesport.com/news/article/mps/UAN/2968/v/1/sp/ ''Backstedt Bound For Slipstream-Chipotle''] londoncyclesport.com</ref>.

Mae Magnus yn briod i'r seiclwraig [[Cymraeg|Cymreig]], [[Megan Hughes]] ac mae ganddynt ddau o blant, ganed ei ferch hynnaf, Elynor Megan Bäckstedt yn Ionawr 2002, a Zoe Jane Bäckstedt yn Nhachwedd 2004. Fel seiclwr proffesiynol mae Magnus wedi byw mewn sawl gwlad, bu'n byw yn [[Zulte]], [[Gwlad Belg]] yn 2003. Erbyn heddiw, mae'n byw yn [[Llanilltud Fawr]], [[Bro Morgannwg]], ac yn ôl y [[BBC]], nid yw'r siwr os mai Swedwr neu Gymro ydyw bellach ac roedd yn ystyried cystadlu yng [[Gemau'r Gymanwlad|Ngemau'r Gymanwlad]] drost Gymru.<ref>[http://news.bbc.co.uk/1/hi/wales/3863479.stm ''Village cheers on cycle hero''] BBC [[3 Gorffennaf]] [[2004]]</ref>

==Canlyniadau==

;1996
:1af Boland Bank Tour
::1af 2 Gam o'r Boland Bank Tour
:2il GP D'Isbergues
;1997
:1af GP D'Isbergues
;1998
:1af Cam 19, [[Tour de France]]
:1af 1 Cam o'r [[Tour of Sweden]]
:1af Cystadleuaeth Sbrint ''Four days of Dunkirk''
:2il Postgiro
::1af Cam 4B, Postgiro
;2000
:2il Pencampwriaethau Cenedlaethol Rasio Ffordd, Sweden
;2002
:[[Delwedd:Flag of Sweden.svg|22px]] Pencampwr Cenedlaethol Rasio Ffordd, Sweden
:1af GP Fayt le Franc
;2003
:[[Delwedd:Flag of Sweden.svg|22px]] Pencampwr Cenedlaethol Treial Amser, Sweden
:1af Ctstadleuaeth 'Intergiro' [[Giro d'Italia]]
:2il Pencampwriaethau Cenedlaethol Rasio Ffordd, Sweden
:2il Nokere-Koerse
:2il GP d'Ouverture la Marseillaise
;2004
:1af [[Paris-Roubaix]]
:2il [[Gent-Wevelgem]]
:2il [[CSC Classic]]
;2005
:2il Cam 7, [[Tour de France]]
;2007
:[[Delwedd:Flag of Sweden.svg|22px]] Pencampwr Cenedlaethol Rasio Ffordd, Sweden
:[[Delwedd:Flag of Sweden.svg|22px]] Pencampwr Cenedlaethol Treial Amser, Sweden

== Dolenni Allanol ==
*[http://www.magnusbackstedt.com Gwefan Swyddogol]
*[http://www.cyclingworld.dk/index.php?p=portratter/profil.php&id=26 Poffil ar wefan Undeb Seiclo Denmarc]

==Ffynhonellau==
<references/>

[[Categori:Seiclwyr Swedaidd|Bäckstedt, Magnus]]
[[Categori:Genedigaethau 1975|Bäckstedt, Magnus]]

[[da:Magnus Bäckstedt]]
[[de:Magnus Bäckstedt]]
[[en:Magnus Bäckstedt]]
[[es:Magnus Backstedt]]
[[fi:Magnus Bäckstedt]]
[[fr:Magnus Backstedt]]
[[it:Magnus Bäckstedt]]
[[ja:マニュス・バクステット]]
[[nl:Magnus Bäckstedt]]
[[no:Magnus Bäckstedt]]
[[pl:Magnus Bäckstedt]]
[[sv:Magnus Bäckstedt]]