Jeriwsalem: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
John Jones (sgwrs | cyfraniadau)
manion
Llinell 1:
[[Delwedd:Jerusalem Dome of the rock BW 13.JPG|300px|bawd|Y Mur Gorllewinol a'r Gromen ar y Graig ([[Mosg Al-Aqsa]]) yng Nghaersalem]]
Prifddinas ''de facto'' gwladwriaeth [[Israel]] yw '''Caersalem''' yn Gymraeg; ('''Jerusalem''' yn Saesneg; '''Yerushaláyim''', '''ירושלים'''yn [[Hebraeg]] Diweddar, '''ירושלם''' yn Hebraeg clasurol; '''al-Quds''', '''القدس''', yn [[Arabeg]]). Caersalem yw'r enw cywir gan nad oes 'J' yn bodoli yn y Gymraeg. Mae hi'n dref hynafol o bwysigrwydd crefyddol arbennig yn hanes [[Iddewiaeth]], [[Cristnogaeth]] ac [[Islam]]. Er bod yr Israeliaid yn hawlio Caerselem yn brifddinas Israel, yn ôl y [[Cenhedloedd Unedig]] mae'n ddinas a feddianwyd gan yr Israeliaid yn anghyfreithlon. Mewn canlyniad nid yw'n cael ei chydnabod fel prifddinas Israel gan y mwyafrif llethol o wledydd y byd (gweler isod).
 
== Daearyddiaeth ==
Llinell 11:
 
== Crefydd ==
Cyfeirir yn aml at Gaersalem yn [[yr Hen Destament]]. Cododd [[Solomon]] ei deml enwog yno i ddiogelu [[Arch y Cyfamod]]. Ar fapiau [[Yr Oesoedd Canol|canoloesol]] lleolir y ddinas yng nghanol y byd a chredid y byddai'r [[Ail Ddyfodiad Crist|Ail Ddyfodiad]] yn digwydd yn Nyffryn [[Jehoshaphat]] yn ymyl y ddinas a [[Llyfr y Datguddiad|Jersiwsalem Newydd]] yn cael ei chodi.
 
Mae'r Iddewon yn ystyried dinistr Teml [[Herod Fawr]] yn y flwyddyn [[70]] gan y [[Yr Ymerodraeth Rufeinig|Rhufeiniaid]] dan [[Titus]] yn drychineb cenedlaethol a gofir hyd heddiw. Mae'r cysegrfan Islamaidd, [[Mosg Al-Aqsa]] - a elwir hefyd [['y Gromen ar y Graig]]' (yn gamarweiniol) - yn sefyll ar ei safle heddiw.
 
I'r Cristnogion mae Caersalem yn ddinas sanctaidd oherwydd ei lle amlwg ym mywyd [[Iesu Grist]]; y lle pwysicaf a gysylltir ag ef yw [[Eglwys y Beddrod Sanctaidd]] ar y bryn gorllewinol lle honodd yr ymerodr [[Cwstennin]] fod bedd Crist i'w gael. Mae'r [[Via Dolorosa]] yn dilyn y llwybr a gerddwyd gan Grist o lys [[Pontius Pilate]] i [[Bryn Calfaria|Fryn Calfaria]].