System gylchredol: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Alan012 (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Alan012 (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Llinell 3:
 
Mae gwaed yn nhu dde'r galon yn cael y pympio at yr ysgyfaint. Yn yr ysgyfaint, mae'r gwaed yn cyfnewid nwyon; mae'n derbyn ocsigen o'r ysgyfaint ac yn rhoi [[carbon deuocsid]]. Wedyn, mae'r gwaed sy'n cynnwys llawer o ocsigen erbyn hyn, yn dychwelyd i du chwith y galon, lle caiff e ei bympio trwy rhydweliau i weddill y corff. Mae'r gwaed yn cludo ocsigen i'r corff felly, ac mae'n hel [[carbon deuocsid]] o'r corff. Wedyn, mae'r gwaed yn dychwelyd o'r corff trwy'r gwythiennau, gyda llai o ocsigen a mwy o carbon deuocsid; mae'r gwaed is-ocsigen hwn yn cyrraedd tu dde'r galon, o ble mae'n cael ei bympio i'r ysgyfaint unwaith eto.
 
Yn ogystal â nwyon, mae'r gwaed yn cludo sylweddau eraill trwy'r corff. Er enghraifft: mae e'n cario sylweddau sy'n trawsgludo ynni o fwyd i'r cyhyrau; hormonau; a sylweddau gwastraff o'r corff, a dynnir gan yr arennau.
 
===Gweler hefyd===