Meddwl.org: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Meddwl (sgwrs | cyfraniadau)
Sefydlwyd gwefan meddwl.org fis Tachwedd 2016, a chaiff ei redeg gan grŵp bach o wirfoddolwyr, er mwyn ceisio mynd i’r afael â’r diffyg gwybodaeth cyfrwng Cymraeg sydd ar gael i helpu pobol sy’n byw gyda salwch neu gyflwr iechyd meddwl, a’u teuluoedd a’u ffrindiau. Dyma’r wefan gyntaf o’i math sy’n cynnwys gwybodaeth ar faterion iechyd meddwl drwy gyfrwng y Gymraeg.
(Dim gwahaniaeth)

Fersiwn yn ôl 21:48, 3 Ebrill 2018

Sefydlwyd gwefan meddwl.org fis Tachwedd 2016, a chaiff ei redeg gan grŵp bach o wirfoddolwyr, er mwyn ceisio mynd i’r afael â’r diffyg gwybodaeth cyfrwng Cymraeg sydd ar gael i helpu pobol sy’n byw gyda salwch neu gyflwr iechyd meddwl, a’u teuluoedd a’u ffrindiau. Dyma’r wefan gyntaf o’i math sy’n cynnwys gwybodaeth ar faterion iechyd meddwl drwy gyfrwng y Gymraeg.

Mae’r wefan yn lle i gael cefnogaeth, dysgu am anhwylderau iechyd meddwl gwahanol, darllen am brofiadau eraill a chael gwybodaeth am ble i gael cymorth – i gyd drwy gyfrwng y Gymraeg.

Roedd ychydig o ddeunydd Cymraeg eisoes yn bodoli, ond roedd yn anodd dod o hyd iddo. Bwriad y wefan, felly, yw gwneud y wybodaeth Gymraeg yn fwy hygyrch drwy ddod â’r holl wybodaeth Gymraeg ynghyd i un lle. Mae’r wefan yn cynnwys gwybodaeth a oedd ar gael eisoes mewn llefydd gwahanol ar-lein, yn ogystal â gwybodaeth Gymraeg newydd a gyfieithwyd gan ein cefnogwyr.

Mae meddwl.org hefyd yn darparu gofod i unigolion rannu a darllen am brofiadau eraill ar y dudalen blogiau. Dyma adran fwyaf poblogaidd y wefan, a chredwn fod hyn yn dangos bod siaradwyr Cymraeg yn gwerthfawrogi’r cyfle i rannu a thrafod yn Gymraeg.

Mae’r prinder gwasanaethau a deunyddiau iechyd meddwl yn Gymraeg yn broblem enfawr. Nid yw enwau Cymraeg llawer o’r cyflyrau yn gyffredin hyd yn oed, felly’r gobaith yw y bydd y wefan yn ffordd o fynd i’r afael â’r broblem hon.

Mae ymchwil a phrofiadau personol wedi dangos bod mynegi a thrafod materion sensitif, emosiynol a chymhleth, fel materion iechyd meddwl, yn brofiad llawer haws, yn fwy naturiol ac yn llai rhwystredig wrth allu gwneud hynny yn eu mamiaith. I lawer o siaradwyr Cymraeg, gall gwneud hynny yn Saesneg, waeth beth yw eu rhuglder, fod yn eithriadol o anodd. Mae cleifion iechyd meddwl yn aml yn cael mwy o fudd o wasanaethau a ddarperir drwy gyfrwng eu hiaith gyntaf gan nad oes unrhyw rwystrau ieithyddol i’w mynegiant, i’w hyder, i’w gallu i ddatgelu nac i’w gallu i adeiladu perthynas gyda’r ymarferydd.

Mae’n bwysig, felly, fod pobl sy’n byw gyda salwch neu gyflwr iechyd meddwl yn cael mynediad at wasanaethau iechyd meddwl yn yr iaith sydd fwyaf cyfforddus iddyn nhw, yn enwedig gan fod siarad a chyfathrebu yn rhan mor ganolog o’r driniaeth ac o’r broses o wella. Y gobaith yn yr hirdymor yw helpu i sicrhau bod elusennau a mudiadau iechyd meddwl yn darparu mwy o ddeunyddiau iechyd meddwl yn Gymraeg.

Manylion Cyswllt:

E-bost: post@meddwl.org

Faceook: Meddwl

Twitter: @gwefanmeddwl

Instagram: gwefanmeddwl