Gwefan meddwl.org golygu

 
meddwl.org

Sefydlwyd gwefan meddwl.org fis Tachwedd 2016, a chaiff ei redeg gan grŵp bach o wirfoddolwyr, er mwyn ceisio mynd i’r afael â’r diffyg gwybodaeth cyfrwng Cymraeg sydd ar gael i helpu pobol sy’n byw gyda chyflwr iechyd meddwl, a’u teuluoedd a’u ffrindiau. Dyma’r wefan gyntaf o’i math sy’n cynnwys gwybodaeth ar faterion iechyd meddwl drwy gyfrwng y Gymraeg yn unig.

Pan sefydlwyd y wefan, roedd ychydig o ddeunydd Cymraeg eisoes yn bodoli, ond roedd yn anodd dod o hyd iddo. Bwriad y wefan, felly, yw gwneud y wybodaeth Gymraeg yn fwy hygyrch drwy ddod â’r holl wybodaeth Gymraeg ynghyd i un lle. Mae’r wefan yn cynnwys gwybodaeth a oedd ar gael eisoes mewn llefydd gwahanol ar-lein, yn ogystal â gwybodaeth Gymraeg newydd a gyfieithwyd gan ein cefnogwyr.

‘Mae’r prinder gwasanaethau a deunyddiau iechyd meddwl yn Gymraeg yn broblem enfawr’ golygu

Mae’r wefan hefyd yn darparu gofod i unigolion rannu a darllen am brofiadau eraill ar y dudalen blogiau. Dyma adran fwyaf poblogaidd y wefan, a chredwn fod hyn yn dangos bod siaradwyr Cymraeg yn gwerthfawrogi’r cyfle i rannu a thrafod yn Gymraeg.

Mae’r prinder gwasanaethau a deunyddiau iechyd meddwl yn Gymraeg yn broblem enfawr. Nid yw enwau Cymraeg llawer o’r cyflyrau yn gyffredin hyd yn oed, felly’r gobaith yw y bydd y wefan yn ffordd o fynd i’r afael â’r broblem hon.

Mae ymchwil a phrofiadau personol wedi dangos bod mynegi a thrafod materion sensitif, emosiynol a chymhleth, fel materion iechyd meddwl, yn brofiad llawer haws, yn fwy naturiol ac yn llai rhwystredig wrth allu gwneud hynny yn eu mamiaith. I lawer o siaradwyr Cymraeg, gall gwneud hynny yn Saesneg, waeth beth yw eu rhuglder, fod yn eithriadol o anodd. Mae cleifion iechyd meddwl yn aml yn cael mwy o fudd o wasanaethau a ddarperir drwy gyfrwng eu hiaith gyntaf gan nad oes unrhyw rwystrau ieithyddol i’w mynegiant, i’w hyder, i’w gallu i ddatgelu nac i’w gallu i adeiladu perthynas gyda’r ymarferydd.

‘…gan fod cyfathrebu a siarad yn rhan mor ganolog o’r driniaeth’ golygu

Mae’n bwysig, felly, fod pobl sy’n byw gyda salwch neu gyflwr iechyd meddwl yn cael mynediad at wasanaethau iechyd meddwl yn yr iaith sydd fwyaf cyfforddus iddyn nhw, yn enwedig gan fod siarad a chyfathrebu yn rhan mor ganolog o’r driniaeth ac o’r broses o wella. Y gobaith yn yr hirdymor yw helpu i sicrhau bod elusennau a mudiadau iechyd meddwl yn darparu mwy o ddeunyddiau iechyd meddwl yn Gymraeg.

Fis Rhagfyr 2020, cofrestrwyd meddwl.org yn elusen gofrestredig.

Mae pob croeso i chi gysylltu â ni i rannu profiadau neu gyngor ag eraill, neu os oes gennych awgrymiadau am gynnwys y dylid ei ychwanegu at y wefan: post@meddwl.org.

Gallwch hefyd ein dilyn ni ar Facebook, Twitter, Instagram ac YouTube.

Bu meddwl.org yn cyd-weithio â phrosiect Wici Iechyd er mwyn gwneud rhai o'u tudalennau gwybodaeth yn gyhoeddus a'u cyhoeddi ar Wicipedia. Gweler erthyglau meddwl.org ar wicipedia yma.