Brwydr Passchendaele: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Llinell 5:
Dechreuodd yr ymladd yn y cylch ym mis Mehefin, a dechreuodd y frwydr ei hun ar [[31 Gorffennaf]] [[1917]]. Roedd yr ymgyrch wedi ei chynllunio gan Haig, er gwaethaf gwrthwynebiad y Prif Weinidog, [[David Lloyd George]]. Y bwriad oedd torri trwy linellau'r Almaen a chipio porthladdoedd [[Oostende]] a [[Zeebrugge]], oedd yn cael eu defnyddio gan longau tanfor yr Almaen.
 
Parhaodd y frwydr hyd [[6 Tachwedd]], 1917, pan gipiwyd [[Passendale]], oedd erbyn hynny yn ddim ond ychydig o adfeilion ynghanol y mwd. Mae dadl yn parhau ynglyn a cholledion y ddwy ochr; yn ôl rhai ffigyrau collodd y cyngheiriaid 448,000 o filwyr wedi eu lladd neu eu clwyfo, a'r Almaen 260,000. Yn ôl eraill, roedd y ffigyrau yn fwy cyfartal. Rhan o Frwydr Passchendaele oedd Brwydr Cefn Pilckem, lle lladdwyd [[Hedd Wyn]] ar [[31 Gorffennaf]].