Afon Dyfrdwy: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
Llinell 26:
 
Llifa'r afon tua'r dwyrain ar hyd Dyffryn Penllyn, heibio [[Llandderfel]] ac olion castell Crogen. Mae'n troi tua'r gogledd-ddwyrain a llifo heibio [[Cynwyd]], ac yn fuan wedyn mae [[afon Alwen]] yn ymuno a hi. Gerllaw [[Corwen]] mae'n troi tua'r dwyrain eto, a llofo ar hyd Dyffryn Edeirnion heibio [[Carrog]] a [[Glyndyfrdwy]], gan fynd heibio olion [[Castell Glyndyfrdwy]], hen gaer [[Owain Glyndŵr]], yna'n llifo trwy dref [[Llangollen]]. Ychydig ymhellach i'r dwyrain, mae [[Traphont Pontcysyllte]] yn cario [[Camlas Llangollen]] dros yr afon, rhwng pentrefi Trefor a [[Froncysyllte]].
 
[[Delwedd:SPIMG0001a.jpg|270px|bawd|chwith|Pont bwa Bangor is y Coed]]
 
O'r fan lle mae [[afon Ceiriog]] yn ymuno a hi, mae'r afon yn troi tua'r gogledd-ddwyrain, ac yn ffurfio'r ffîn rhwng Cymru a Lloegr am rai milltiroedd, cyn dychwelyd i Gymru ger [[Erbistog]] a llifo heibio [[Bangor-is-y-coed]]. Ychydig ymhellach ymlaen, mae [[Afon Clywedog (Dyfrdwy)|afon Clywedog]] yn ymuno a hi, yna mae'n llifo tua'r gogledd, gan ffurfio'r ffîn rhwng Cymru a Lloegr eto, a llifo heibio [[Holt]] a [[Farndon]]. Mae [[afon Alun]] yn ymuno a hi ychydig ymhellach i'r gogledd. Mae'r afon yn croesi i mewn i Loegr ger [[Aldford]] ac yn llifo heibio [[Eccleston]] a throi tua'r gorllewin trwy ddinas [[Caer]]. Yn fuan wedyn, mae'n dychwelyd i Gymru ac yn llifo tua'r gogledd-orllewin heibio [[Queensferry]] a [[Shotton]], cyn lledaenu i greu aber o faint sylweddol, gyda'r ffîn rhwng Cymru a Lloegr yn arwain ar hyd ei chanol. Mae'n cyrraedd y môr ger [[y Parlwr Du]] ar yr ochr Gymreig a [[Hoylake]] ar yr ochr Seisnig.