Afon Dyfrdwy: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
Llinell 23:
[[Delwedd:Under Pontcysyllte.jpg|200px|bawd|de|Afon Dyfrdwy yn rhedeg dan Draphont Pontcysyllte]]
 
Ceir tarddle afon Dyfrdwy ar lechweddau dwyreiniol [[Dduallt]], ychydig i'r gogledd-ddwyrain o gopa [[Rhobell Fawr]] ac i'r de-orllewin o bentref [[Llanuwchllyn]]. Mae'n llifo tua'r dwyrain, ac yna i'r gogledd-ddwyrain, yn gyfochrog a'r briffordd [[A494]] i gyrraedd Llanuwchllyn. Gerllaw'r pentref, mae [[afon Lliw]] yn ymuno a hi, ac ychydig ymhellach ymlaen mae [[afon Twrch]] yn ymuno, gerllae caer Rufeinig [[Caer Gai]]. Mae'n llifo trwy [[Llyn Tegid|Lyn Tegid]], ac yn gadael y llyn gerllaw [[y Bala]], lle mae [[afon Tryweryn]] yn ymuno a hi.
 
Llifa'r afon tua'r dwyrain ar hyd Dyffryn Penllyn, heibio [[Llandderfel]] ac olion castell Crogen. Mae'n troi tua'r gogledd-ddwyrain a llifo heibio [[Cynwyd]], ac yn fuan wedyn mae [[afon Alwen]] yn ymuno a hi. Gerllaw [[Corwen]] mae'n troi tua'r dwyrain eto, a llofo ar hyd Dyffryn Edeirnion heibio [[Carrog]] a [[Glyndyfrdwy]], gan fynd heibio olion [[Castell Glyndyfrdwy]], hen gaer [[Owain Glyndŵr]], yna'n llifo trwy dref [[Llangollen]]. Ychydig ymhellach i'r dwyrain, mae [[Traphont Pontcysyllte]] yn cario [[Camlas Llangollen]] dros yr afon, rhwng pentrefi Trefor a [[Froncysyllte]].