Carnedd Llywelyn: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Llinell 11:
'''Carnedd Llywelyn''' ('''Carnedd Llewelyn''' ar y map OS) yw'r mynydd uchaf ym mynyddoedd y [[Carneddau]] yn [[Eryri]]. Carnedd Llywelyn yw'r mynydd uchaf yng [[Cymru|Nghymru]] ar ôl [[Yr Wyddfa]], os na ystyrir Crib y Ddysgl/Carnedd Ugain ar yr Wyddfa yn fynydd ar wahan. Mae'r ffin rhwng [[Gwynedd]] a [[Conwy (sir)|sir Conwy]] yn mynd tros y copa.
 
===Dringo'r mynydd===
 
Mae Carnedd Llywelyn yn fynydd pur anodd cyrraedd ato, gan ei fod ar ganol prif grib y Carneddau, rhwng [[Carnedd Dafydd]] i'r de-orllewin a [[Foel Grach]] i'r gogledd. Mae copa llai [[Yr Elen]] yn agos iawn at Garnedd Llywelyn i'r gogledd-orllewin. Gan ei fod gryn bellter o unrhyw ffordd, mae tipyn o waith cerdded i gyrraedd y copa o unrhyw gyfeiriad. Gellir ei ddringo o [[Gerlan]] ger [[Bethesda]], gan ddilyn [[Afon Llafar]] tua chreigiau Ysgolion Duon yna dringo'r Elen a pharhau ar hyd y grib i gopa Carnedd Llywelyn. Gellir hefyd ei ddringo o'r [[A5]] ger Helyg, gan ddilyn y ffordd drol i [[Ffynnon Llugwy]] a dringo'r llechweddau uwchben [[Craig yr Ysfa]] i'r copa. Dull arall yw ei gyrraedd ar hyd y brif grib, un ai trwy ddringo [[Pen yr Ole Wen]] o [[Llyn Ogwen|Lyn Ogwen]] neu ddringo [[Foel Fras]] o [[Abergwyngregyn]]. Gellir hefyd ddringo [[Pen Llithrig y Wrach]] ychydig i'r de-ddwyrain a dilyn y grib i gopa Carnedd Llywelyn.
 
===Yr enw===
 
Ymddengys yn weddol sicr fod Carnedd Llywelyn wedi ei enwi ar ôl un ai [[Llywelyn Fawr]] neu [[Llywelyn ap Gruffudd]], ond nid oes sicrwydd pa un. Yn yr un modd, enwyd Carnedd Dafydd ar ôl mab Llywelyn Fawr, [[Dafydd ap Llywelyn]], neu ar ôl [[Dafydd ap Gruffudd]], brawd Llywelyn ap Gruffudd, ond nid oes sicrwydd pa un o'r ddau.
 
Llinell 23 ⟶ 21:
Cofnodir cerdd i'r mynydd a briodolir i'r beirdd [[Rhys Goch Eryri]], [[Ieuan ap Gruffudd Leiaf]] ac eraill (tua [[1450]] efallai). Un o'r cerddi [[brud]] ydyw. Mae'r bardd yn ymddiddan â'r mynydd ac yn gofyn iddo [[Darogan|ddarogan]] pryd y daw'r [[Mab Darogan]] i wared y [[Cymry]]. Mae'r ateb yn awgrymu [[Harri Tudur]]. Mae'r bardd yn annerch y mynydd fel 'Carnedd... // - llewpart ysigddart seigddur - / Llywelyn, frenin gwyn gwŷr.'
 
===Llyfryddiaeth===
 
* [[Huw Derfel]] ''Llawlyfr Carnedd Llywelyn'' (1864) oedd y llawlyfr mynydd cyntaf yn Gymraeg
* Ioan Bowen Rees, ''Bylchau'' (Caerdydd, 1995). Pennod 1: 'Llawlyfr Carnedd Llywelyn'.
Llinell 32 ⟶ 29:
{{14 copa}}
 
[[Categori:Mynyddoedd a bryniau Conwy]]
[[Categori:Mynyddoedd a bryniau Eryri]]
[[Categori:Mynyddoedd a bryniau Gwynedd]]
 
 
[[de:Carnedd Llewelyn]]