Sulwyn Thomas: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
dolenni mewnol
Llinell 5:
Ar ôl gadael Ysgol Ramadeg y Bechgyn, [[Caerfyrddin]] fe'i hyfforddwyd fel newyddiadurwr yn swyddfa'r ''[[Evening Post]]'' yn [[Abertawe]]. Ymunodd â chwmni teledu [[TWW]] fel gohebydd yng ngorllewin Cymru i raglen [[Y Dydd]], gan barhau gyda'r un gwaith pan gymerodd [[HTV]] le [[Teledu Cymru]].
 
Yn 1977 ymunodd Sulwyn â'r [[BBC]] fel un o gyflwynwyr y rhaglen Heddiw a throi wedyn i fyd radio gan lywio ''Stondin Sulwyn'' - ddaeth yn un o raglenni mwyaf poblogaidd ''BBC Radio Cymru'' yn ystod y chwarter canrif diwethaf. Bu'r Stondin yn lwyfan i gannoedd o bobl o bob rhan o Gymru i drafod pynciau'r dydd tan ddiwedd y rhaglen yn 2002.
 
Parhaodd hefyd fel cyflwynydd teledu, gan gyflwyno [[Y Sioe Fach]], rhaglenni o Sioe [[Sioe Frenhinol Cymru|Sioe Llanelwedd]], a'r rhaglen [[Ffermio (rhaglen deledu)|Ffermio]] rhwng 1997 a 2004. Roedd yn un o sefydlwyr gwasanaeth [[Radio Glangwili]] yn 1972 a Papur Llafar y Deillion.
 
Mae'n ddiacon selog yng nghapel y Priordy, Caerfyrddin, ac yn aelod o'r cwmni drama a gyflwynodd [[Dan y Wenallt (drama)|Dan y Wenallt ]] am y tro cyntaf.
 
Cafodd ei urddo i'r wisg wen yng [[Gorsedd y Beirdd|Ngorsedd Beirdd Ynys Prydain]] yn [[Eisteddfod Genedlaethol Cymru Maldwyn a'r Gororau 2003|Eisteddfod Genedlaethol Maldwyn a'r Gororau]] yn 2003.
 
Ym mis Rhagfyr 2008, cyhoeddodd Sulwyn ei hunangofiant ''Sulwyn'' fel rhan o [[Gyfres y Cewri]] a gyhoeddir gan [[Gwasg Gwynedd|Wasg Gwynedd]].
 
Mae'n byw yng Nghaerfyrddin gyda'i wraig Glenys, a chanddynt ddau o blant - Owain a [[Branwen Thomas]], sy'n wyneb cyfarwydd i wylwyr [[Y Byd ar Bedwar]] ar S4C.