Y Normaniaid yng Nghymru: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B →‎top: clean up
John Jones (sgwrs | cyfraniadau)
ehangu
Llinell 1:
[[Delwedd:Pembroke Castle - June 2011.jpg|200px|bawd|[[Castell Penfro]], un o gadarnleoedd y Normaniaid yng Nghymru]]
Cyrhaeddodd milwyr o [[Normandi]] Gymru yn 1051, pan ddaeth Ralff o Mantes (nai edward Gyffeswr) yn iarll [[Henffordd]], gan sefydlu rhan o'i fyddin ar [[y ffin rhwng Cymru a Lloegr]].<ref>''Gwyddoniadur Cymru'' (Gwasg Prifysgol Cymru; 2008).</ref> Olynydd brenhinoedd Sacsonaidd oedd [[Gwilym I o Loegr|Gwilym Goncwerwr]], ac felly nid oedd ganddo fryd ar feddiannu Cymru, a phwrpas amddiffynnol oedd i'w gtynlluniau yn gosod ei fyddin ar y ffin hwn.
 
O achos cwymp [[Gruffudd ap Llywelyn]] ym [[1063]] doedd [[Cymru]] ddim yn wlad gref pan gyrhaeddodd [[Gwilym I o Loegr|Gwilym Goncwerwr]] Loegr a meddianu coron y deyrnas honno yn [[1066]] ar ôl ennill [[Brwydr Hastings]]. Sefydlodd iarllaethau yng [[Caer|Nghaer]] ([[iarllaeth Caer]], [[Amwythig]] ([[iarllaeth Amwythig]]) a [[Henffordd]] ([[iarllaeth Henffordd]]). BrwydroddOnd wedi peth amser, brwydrodd yr ieirll hyn yn erbyn y [[Cymry]], gan ehangu eu tir ac adeiladu [[castell mwnt a beili|cestyll]]. O ganlyniad daeth [[Teyrnas Gwent|brenhiniaeth Gwent]] i ben ym [[1086]] ac aeth tiriogaeth [[teyrnas Gwynedd]] yn llai a llai. Ceir y cyfeiriad cyntaf at y Normaniaid mewn llawysgrifau Cymreig yn 1072 pan laddwyd Maredudd ab Owain o Ddeheubarth gan y Normaniaid.
 
SerchEr hynnymwyn cadw'r heddwch, cafodd rhai o arweinwyr y Cymry eu cydnabod gan y brenin newydd: [[Rhys ap Tewdwr]] yn [[Deheubarth|Neheubarth]] ac [[Iestyn ap Gwrgant]] ym [[Teyrnas Morgannwg|Morgannwg]], ond newidiodd y sefyllfa ar ôl i Wilym farw ym [[1087]]. Cipiwyd Morgannwg a [[Teyrnas Brycheiniog|Brycheiniog]] ac aeth [[Roger o Montgomery]], iarll Amwythig, i dde [[Dyfed]] lle cododd [[castell Penfro|gastell Penfro]].
 
Bu [[Gruffudd ap Cynan]], brenin Gwynedd. yn llwyddiannus am gyfnod yn ymladd yn erbyn y Normaniaid, ac yr un fath [[Rhys ap Tewdwr]] yn Neheubarth.
 
==Gwilym II==
Nid oedd gan fab Gwilym, sef [[Gwilym II]] yr un parch at y Cymry, a gan nad oedd yn anrhydeddu cytundebau ei dad ymestynnodd i fewn i rannau dwyreiniol o Gymru, gan gynnwys ymdrechion [[Bernard de Neufmarché]] (c. 1050–c. 1125) a lwyddodd i gipio'r tir o'r ffin hyd at [[Aberhonddu]] erbyn 1093. lle cododd gastell iddo'i hun a sefydlu [[Arglwyddiaeth Brycheiniog]] er mwyn ceisio rheoli'r ardal. Ymladdodd [[Rhys ap Tewdwr]] yn ei erbyn, a bu farw; o hynny ymlaen, cynyddodd gafael y Normaniaid ar ddwyrain [[Deheubarth]]. Cododd Arnulf Montgomery gastell ym [[Penfro|Mhenfro]] a phenodi Gerald o Windsor (taid [[Gerallt Gymro]]) yn gwnstabl.
 
Yng nghanolbarth Cymru y sefydlodd [[Philip de Breos]]. Syrthiodd [[Morgannwg]] a oedd yn un o bedair prif deyrnas Cymru, i ddwylo [[Robert Fitz Hammo]].
 
Erbyn 1135 roedd y rhan fwyaf o'r de yn nwylo'r Normaniaid, ond nid am hir!
 
==1204==
Pan goronwyd Harri II, o linach Angyw yn 1154, ac yn sicr erbyn i Loegr golli Normandi yn 1204, daeth terfyn ar drefn y Normaniaid yng Nghymru.
 
==Gweler hefyd==