Afon Teifi: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
llun arall
Llinell 1:
[[Delwedd:Afon Teifi a Cors Caron, Ceredigion.jpg|250px|bawd|Afon Teifi yn llifo trwy [[Cors Caron|Gors Caron]].]]
[[Delwedd:LLechryd Bridge.jpg|250px|bawd|Yr hen bont ar afon Teifi, [[Llechryd]].]]
Afon yng nghanolbarth [[Cymru]] yw '''Afon Teifi'''. Mae'n llifo i [[Bae Ceredigion|Fae Ceredigion]] gerllaw [[Aberteifi]]. Am ran olaf ei chwrs mae'n dynodi'r ffin rhwng [[Ceredigion]] a [[Sir Benfro]].
 
[[Delwedd:LLechryd Bridge.jpg|250px|bawd|Yr hen bont ar afon Teifi, [[Llechryd]]]]Mae afon Teifi yn tarddu yn [[Llyn Teifi]] yn rhan ogleddol Ceredigion, i'r dwyrain o bentref [[Ffair-rhos]]. Wedi llifo tua'r gorllewin heibio i [[Abaty Ystrad Fflur]] mae'n cyrraedd pentref [[Pontrhydfendigaid]] ac yna'n troi tua'r de-orllewin gan lifo trwy Gors Goch Glan Teifi, a adwaenir hefyd fel [[Cors Caron]]. Yn fuan wedyn mae'n llifo trwy dref [[Tregaron]] ac yna'n parhau tua'r de-orllewin gan fynd heibio i [[Llanddewi Brefi|Landdewi Brefi]], lle mae afon Brefi yn ymuno â hi. Wedyn mae'n mynd drwy [[Llanfair Clydogau|Lanfair Clydogau]], [[Cwmann]], [[Llanbedr Pont Steffan]] a [[Llanybydder]]. Ychydig cyn cyrraedd [[Llandysul]] mae [[Afon Cletwr]] yn ymuno â hi, ac yna mae'n llifo trwy [[Castell Newydd Emlyn|Gastell Newydd Emlyn]], [[Cenarth]], a ger [[Abercuch]] mae'r [[Afon Cuch]] yn ymuno â hi. Wedyn â heibio [[Cilgerran]] a [[Llechryd]] cyn cyrraedd y môr islaw [[Aberteifi]]. Gellir gweld effaith y llanw cyn uched â Llechryd.
 
Un o nodweddion afon Teifi yw'r traddodiad o bysgota, am [[Eog|eog]] yn bennaf, gan ddefnyddio [[cwrwgl]] yn y rhannau o amgylch Cenarth. Mae'r afon hefyd yn cynnig pysgota da gyda'r enwair.
 
==Gweler hefyd==
*[[Cors Caron]]
*[[Dyffryn Teifi]]