Afon Teifi
Afon yng nghanolbarth Cymru yw Afon Teifi. Mae'n llifo i Fae Ceredigion gerllaw Aberteifi. Am ran olaf ei chwrs mae'n dynodi'r ffin rhwng Ceredigion a Sir Gaerfyrddin.
Cwrs
golyguMae afon Teifi yn tarddu yn Llyn Teifi yn rhan ogleddol Ceredigion, i'r dwyrain o bentref Ffair-rhos. Wedi llifo tua'r gorllewin heibio i Abaty Ystrad Fflur mae'n cyrraedd pentref Pontrhydfendigaid ac yna'n troi tua'r de-orllewin gan lifo trwy Gors Goch Glan Teifi, a adwaenir hefyd fel Cors Caron. Yn fuan wedyn mae'n llifo trwy dref Tregaron ac yna'n parhau tua'r de-orllewin gan fynd heibio i Landdewi Brefi, lle mae afon Brefi yn ymuno â hi. Wedyn mae'n mynd drwy Lanfair Clydogau, Cwmann, Llanbedr Pont Steffan a Llanybydder. Ychydig cyn cyrraedd Llandysul mae Afon Cletwr yn ymuno â hi, ac yna mae'n llifo trwy Gastell Newydd Emlyn, Cenarth, a ger Abercuch mae'r Afon Cuch yn ymuno â hi. Wedyn â heibio Cilgerran a Llechryd cyn cyrraedd y môr islaw Aberteifi. Gellir gweld effaith y llanw cyn uched â Llechryd.
Pysgota
golyguUn o nodweddion afon Teifi yw'r traddodiad o bysgota, am eog yn bennaf, gan ddefnyddio cwrwgl yn y rhannau o amgylch Cenarth. Mae'r afon hefyd yn cynnig pysgota da gyda'r enwair.
Pyllau 'Sgota Afon Teifi
golyguEnwau Pyllau Afon Teifi : Ffynhonell Caradog Jones, Caernarfon cyn feiliff yr afon, cofnodwyd gan Ifor Williams ar ran Cymdeithas Enwau Lleoedd Cymru. Gwelwch leoliadau'r pyllau isod yn y ddolen yma: Cliciwch ar y smotiau lliw i gael manylion, pyllau afon mewn glas.
https://www.cymdeithasenwaulleoedd.cymru/map-cymdeithas-enwau-lleoedd/
Pontrhydfendigiaid i Dregaron
1 Pwll Tarw
2 Pwll Hir Cam / Trebrysg
3 Pwll Llyn Derlwyn
4 Pwll Bont – Goch
Tregaron i Lanio
5 Pwll Pysgotwr
6 Pwll Abercoed
7 Pwll carreg Dai Lewis (Carreg Goffa)
8 Pwll tip, Ty’n y Domen
9 Pwll Ogwyn
10
11 Pwll Efail Fach
12 Pwll Nantdderwen
Llanio i Gogayan
13 Pwll Signal
14 Pwll Dolau Gwawr
15 Pwll Felin Llanio
16 Pwll Colli Bache
17 Pwll Coed y Gôf
18 Pwll Llynddu
19 Pwll Williams
20 Pwll Peter
21 –
Gogayan i Lanfairclydogau
22 Pwll y Wal
23 Pwll Yr Ysgol
24 Pwll Gogayan
25 Pwll Glanrhacca
26 Pwll Clwt y Patrwn
27 Pwll Waun Wen
Llanfair i Llambed
28 Pwll Drain Duon
29 Pwll Ceffyl Du Trebannau
30 Pwll Ceire
31 Hilary
32 Pwll Baker
Llambed i Lanybydder
33 Pwll Brick Yard
34 Pwll Baili Coch
35 Pwll Mundy
36 Pwll Wires
37 Pwll Sand
38 Pwll John Mawr
39 Pwll y Bâd
40 Pwll Ladi Wen
41 Pwll Du Lawtre (Parch Jacob Davies)
42 Pwll Ceulan
43 Pwll Napier
44 Pwll Rhydybawe neu Y Bane
45 Pwll Gelletch
46 Pwll Y Watch
47 Pwll Craig y Wlff
Llanybydder i Maescrugiau a Llanfihangel ar Arth
48 Pwll Captain Thomas
49 Pwll Gwrdy
50 Pwll Onnen Fawr
51 Pwll Gwiael Coch
52 Pwll Y Tren
53 Y Gweision
54 Pwll Ceffylau Gwedd
55 Pwll Craig y Lantarn
56 Pwll Glas – Crug y whil
57 Pwll Garreg Fawr. Dolauduon
58 Pwll Ficer (Vicars)
59 Pwll Jack. Enwog iawn
60 Pwll Bailer (Tren)
61 Pwll Graig Fach
62 Pwll Llyn y Cawr
63 Pwll Dwrgi
64 Pwll Defaid
65 Pwll Ceffylau
Llanfihangel i Landysul
66 Pwll Genau Clettwr
67 Pwll Pwll Antie Jane – Colli eog mawr
68 Pwll Oak
69 Pwll Little Gravel
70 Pwll Escort
71 Pwll Sunday
72 Wood Pool
73 Rocky Pool
Wall Pool
74 Little Run
75 Horse Pool
76 Gee’s Pool
77 Cerdin flats
78 Pen pwll
Llandysul i Allt y Cafan
79
80 Rhydygalfe
81 Pwll Henry a
82 Pwll Du ( Hoff byllau Cynan 81 a 82)
83 Pwll
84 Pwll Cware
85 Pwll Dôl Watts
86 Pwll Yr Ardd
Allt y Cafan I Henllan
87 Pwll Allt Cafan
88 Pwll Cefn – Mochyn
89 Pwll Badell fach
90 Pwll Badell Fawr
91 Pwll Cart
92 Pwll Mawr Trebedw
93 Pwll Hir Henllan
Henllan i Gastell Newydd Emlyn
94 Pwll Henllan
95 Pwll Glas Dolfrenir
96 Pwll Cwerchyl
97 Pwll Dan y Warren
98 Pwll Castell
Castell Newydd Emlyn i Genarth
99 Pwll William
100 Pwll Llygod y Fforest [gall hwn fod yn llygad?]
101 Pwll Pengwenallt
102 Pwll Y pwmp
Cenarth i Lechryd
103 Pwll Rhaeadrau Cenarth
104 Pwll Sargant
105 Pwll Allt y Bwla
106 Pwll Penllan
107 Pwll Llwyndyrus
Llechryd i Aberteifi
108 Y Llyn
109 Pwll y Meudwy
110 Pwll Bwmbwll
111 Pwll March
112 Pwll Cwmdu
113 Pwll gafr neu Rhyd yr Afr
Aberteifi i’r Môr
114 Pwll Coal Yard
115 Pwll Net (Net Pool)
116 Pwll Sarna
Cadwraeth
golyguMae Afon Teifi wedi'i dynodi'n Ardal Gadwraeth Arbennig.