Iaith ymasiadol: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Glanhawr (sgwrs | cyfraniadau)
Glanhawr (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Llinell 1:
[[Iaith ymasiadol]] yw [[iaith synthetig]] sy'n gwrthgyferbynnu'n gryf gydag [[iaith ddodiadol|ieithoedd dodiadol]] gan ei thueddiad cryf i ymasu [[morffem|morffemau]] i mewn i'w gilydd. Yn aml mae [[morffem|morffemau]] yn newid eu ffurf yn fawr wrth gyfuno. Yr ieithoedd ymasiadol mwyaf amlwg yw'r [[ieithoedd Indo-Ewropeaidd]].
 
Enghraifft da o forffemau wedi'u hymasu yw'r gair Lladin ''bonus'', "da". Mae'r terfyniad ''-us'' yn gyfuniad o dri morffem wedi'u hymasu i mewn i'w gilydd; mae'r terfyniad yn amgodio'r [[cenedl enwau|y cenedl gwrywaidd]], [[y cyflwr goddrychol]], a'r rhif unigol. Os bydd angen newid un o'r morffemau hyn, byddai angen defnyddio terfyniad arall.
 
Nodwedd o ieithoedd ymasiadol, yn wahanol i [[iaith ddodiadol|ieithoedd doiadol]], yw'r nifer o ffurfiau afreolaidd. Ni ddigwyddai hyn mewn [[iaith ddodiadol]] gan fod pob elfen synthetig yn cadw ystyr eu hun. Fe gredir bod ieithoedd ymasiadol yn tarddu o ieithoedd dodiadol er nad oes tystiolaeth o iaith yn ymasu morffemau glynedig i gadarnhau hyn. Ar y llaw arall mae ieithoedd ymasiadol yn dueddol o golli eu [[ffurfdroad|ffurfdroadau]] dros y canrifoedd - mae rhai ieithoedd yn gwneud hyn yn gyflymach nag eraill <ref>[[Guy Deutscher|Deutscher, Guy]] (2005) [http://www.unfoldingoflanguage.com/ ''The Unfolding of Language''], William Heinemann, Llundain.</ref>. Er enghraifft mae'r [[ieithoedd Slafeg]] yr un mor ymasiadol â [[Proto-Indo-Ewropeg|Phroto-Indo-Ewropeg]] ond mae [[Saesneg]] ac [[Afrikaans]] bron yn [[iaith ddadelfennol|ddadelfennol]].