Ynys Llanddwyn: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B robot yn ychwanegu: br:Ynys Llanddwyn
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Llinell 5:
Cysylltir yr ynys fechan hon â'r Santes [[Dwynwen]], [[nawddsant]] cariadon Cymru. Gellir cyrraedd gweddillion yr [[eglwys]] a gysegrir i Ddwynwen trwy ddilyn llwybr troed ar hyd yr ynys o'r sarn. Mae'r adfeilion yn perthyn i'r [[16eg ganrif]] ond credir bod eglwys hynafol ar y safle cyn hynny. Roedd yr eglwys hon yn rhan o ofalaeth [[Eglwys Gadeiriol Bangor]] a dyfodd yn gefnog gan fod cynifer o bererinion yn ymweld â'r ynys yn [[yr Oesoedd Canol]]. Ger yr eglwys mae Ffynnon Ddwynwen; credid fod symudiadau'r pysgod ynddi yn [[darogan]] y dyfodol i gariadon.
 
Gellwch gerdded i'r ynys dros y sarn tywod meddal pan fo'r llanw allan. Mae'n Warchodfa Natur. Ceir nifer o rywiogaethau o flodau gwyllt yno, yn cynnwys [[Pig yr aran]] (Mynawyd y bugail). Ym mis Hydref mae nifer o adar i'w gweld ar yr ynys, gan gynnwys [[Pibydd Coesgoch|pibyddion coesgoch]] a [[Pioden fôr|phiod môr]]. Ym mhen draw'r ynys mae rhes o fythynnod pysgotwyr a dau [[goleudy|oleudy]]. Mae'r [[bae]]au bychain yn dywodlyd a braf yn yr haf. Ceir nifer o ynysoedd llai o'i chwmpas; [[Ynys yr Adar]] yw'r fwyaf o'r rhain.
 
Ceir golygfeydd braf o'r ynys - dros fryniau [[Eryri]] a'r [[Yr Eifl|Eifl]] i'r de a'r de-orllewin.