Efa ferch Madog: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Crewyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Tywysoges o Bowys oedd '''Efa ferch Madog''' (bl. 1160). Mae hi'n adnabyddus yn hanes llenyddiaeth Gymraeg fel gwrthrych y gerdd enwog '…'
 
Llinell 4:
Merch i'r Brenin [[Madog ap Maredudd]] o Bowys oedd Efa. Roedd ganddi bedwar brawd, sef [[Llywelyn ap Madog]] (m. 1160), [[Gruffudd Maelor]] (m. 1191), [[Owain Fychan ap Madog]] (m. 1187), ac [[Owain Brogyntyn]].
 
Y cwbl a wyddys gyda sicrwydd am hanes Efa yw iddi briodi â [[Cadwallon ap Madog|Chadwallon ap Madog ab Idnerth]], Tywysog [[Maelienydd]]. Awgrymir fod Cynddelw wedi canu 'Rhieingerdd Efa ferch Madog' cyn 1160 pan oedd Efa eto'n forwyn neu ar fin priodi. Byddai hynny'n awgrymu iddi gael ei geni tua 1140-45 (roedd merched yn cael eu rhoi mewn priodas mor ifanc â 12-14 oed yng Nghymru'r Oesoedd Canol, a gwledydd eraill). Mae D. Myrddin Lloyd yn aw
 
Cafodd o leiaf un mab, sef [[Maelgwn ap Cadwallon|Maelgwn]], a etifeddodd Faelienydd ar ôl marwolaeth Cadwallon.
 
== Rhieingerdd Efa ==