The Myvyrian Archaiology of Wales: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
BDim crynodeb golygu
Llinell 2:
 
==Hanes a chynnwys==
Mae'r ddwy gyfrol gyntaf yn gerrig milltir pwysig yn hanes [[llenyddiaeth Gymraeg]]. Yn y gyfrol gyntaf ceir detholiad o waith y [[Cynfeirdd]] a'r [[Gogynfeirdd]]. Yn yr ail ceir detholiad da o destunau [[rhyddiaith Cymraeg Canol]] yn cynnwys [[Trioedd Ynys Prydain]] a [[Trioedd|thrioedd]] eraill, [[Bucheddau'r Saint]] a'r [[brut]]iau. Yn anffodus mae cynnwys y drydedd gyfrol yn ffrwyth dychymyg Iolo Morganwg ei hun. Y bwlch amlwg yn y casgliad yw'r [[Mabinogi|chwedlau]] a'r [[Y Tair Rhamant|Rhamantau]]. Y bwriad oedd eu cyhoeddi fel pedwaredd gyfrol ond redodd arian Myfyr allan.
 
Er bod nifer o walliau yn y testunau yn ôl safonau ysgolheictod heddiw, gwnaeth Myfyr a Pughe ymdrech lew i gasglu detholiad cynrychiolol o lenyddiaeth gynnar Cymru. Eu ffynonellau oedd [[llawysgrif]]au gwerthfawr yr hynafiaethydd [[Paul Panton]] (Plas Gwyn, [[Ynys Môn]]) a [[Thomas Jones (Hafod Uchtryd)]], [[Aelod Seneddol]] [[Ceredigion]].
 
Cymhelliad y Gwyneddigion wrth gyhoeddi'r Myvyrian oedd ceisio dangos cyfoeth llenyddiaeth Cymru i'r byd, yn ogystal â hybu astudiaethau o lenyddiaeth Gymraeg yng Nghymru ei hun. Dyna pam y dewiswyd teitl a rhagymadrodd [[Saesneg]]. Roedd [[Cymry]] diwylliedig fel Owain Myfyr yn ymwydodol iawn o ddylanwad y mudiadau hynafiaethol yn [[Lloegr]] ac ar gyfandir [[Ewrop]] - gwaith pobl fel [[Thomas Percy]], golygydd ''Reliques of Ancient English Poetry'' ([[1765]]), er enghraifft - a cheisiant sicrhau i lenyddiaeth Gymraeg ei lle ar yr un llwyfan.
 
==Llyfryddiaeth==