Hebraeg: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Sian EJ (sgwrs | cyfraniadau)
B →‎top: Rhedeg AWB i glirio gwallau using AWB
Dim crynodeb golygu
Llinell 1:
[[Delwedd:Frank-ruehl.png|bawd|Yr wyddor Hebraeg]]
Mae '''Hebraeg''' yn [[iaith]] [[Semitaidd]] a siaredir gan ychydig dros 7 miliwn o bobl yn [[Israel]] a thros y byd. Iaith wreiddiol yr [[ysgrythur]]au [[Iddewiaeth|Iddewig]] ([[Hen Destament]] [[y Beibl]] [[Cristnogaeth|Cristnogol]]) yw ''Hebraeg Beiblaidd'' (neu ''Glasurol''). Diflanodd Hebraeg fel iaith lafar yn yr 2g OC, ond parhaodd fel iaith ysgrifenedig. Cafodd Hebraeg ei hadfywio fel iaith lafar yn niwedd y 19g a daeth yn iaith swyddogol gwladwriaeth fodern Israel yn yr 20g.<ref>[[Ghil'ad Zuckermann|Zuckermann, Ghil'ad]] (2003), [[w:en:Language Contact and Lexical Enrichment in Israeli Hebrew|''Language Contact and Lexical Enrichment in Israeli Hebrew'']]. [https://www.palgrave.com/gp/book/9781403917232 Palgrave Macmillan]. {{ISBN|9781403917232}} / {{ISBN|9781403938695}}</ref>
 
Er mai'r mwyaf amlwg ydyw hi, un ymhlith nifer o ieithoedd Iddewig yw Hebraeg. Ymhlith y lleill y mae [[Iddew-Almaeneg]] neu Yiddish-Daitsch a [[Ladino]] (Sbaeneg Iddewig). Cafodd y rhain eu defnyddio gan wahanol gymunedau Iddewig tra bu Hebraeg llafar yn farw, ond crebachu fu eu hanes yn sgil yr adfywiad yn nefnydd yr Hebraeg, gan adael lleiafrifoedd bychain iawn o siaradwyr yr ieithoedd hyn, os o gwbl.