Tutsi: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Llinell 3:
Dywedir fod y Tutsi yn wreiddiol o [[Dwyrain Affrica|Ddwyrain Affrica]], efallai [[Ethiopia]], a'u bod wedi ymfudo i Rwanda a Burundi yn yr [[11eg ganrif]]. Yn y [[16eg ganrif]], ffurfiwyd teyrnasoedd Tutsi yn yr ardaloedd hyn. Yn draddodiadol, roedd y Tutsi yn ffermwyr gwartheg ac yn ffurfio dosbarth o uchelwyr yn Rwanda a Burundi, tra'r oedd yr [[Hutu]] yn tyfu cnydau, a dan reolaeth y Tutsi. Gwaherddid priodasau rhwng Hutu a Tutsi.
 
Yn yr [[20fed ganrif]], bu llawer o derfysg rhwng y Tutsi a'r Hutu. Yn [[1994]], lladdwyd rhwng 500,000 a miliwn o bobl gan ddau filisia Hutu yn [[Hil-laddiad Rwanda]], a ddechreuodd ar [[6 Ebrill]] pan saethwyd i lawr awyren yn cynnwys Arlywydd Rwanda, [[Juvénal Habyarimana]]. Lladdwyd Habyarimana, oedd yn aelod o'r Hutu. Yn y tri mis nesaf, lladdwyd nifer fawr o'r Tutsi, ac hefyd rhai Hutu oedd yn gwrthwynebu'r milisia.
 
== Canran Hutu, Tutsi a Twa yn Rwanda a Burundi ==